![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4a/Mercury_in_true_color.jpg/640px-Mercury_in_true_color.jpg&w=640&q=50)
Mercher (planed)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mercher (symbol: ) yw'r blaned agosaf at yr haul gyda'r mas leiaf yng Nghysawd yr Haul. Mae'n trogylchu ar bellter cyfartalog o 58 miliwn cilometr. Cafodd ei henwi gan y Rhufeiniaid ar ôl eu duw Mercher. Mae Mercher yn gorwedd ar gylchdro rhwng 27 a 41 miliwn milltir o'r haul. Wnaeth y chwiliedydd gofod Mariner 10 ymweld â'r blaned yn 1974, yn tynnu lluniau ac yn gwneud arbrofion gwyddonol. Mae'r blaned yn cael ei hastudio ar hyn o bryd gan chwiliedydd NASA o'r enw MESSENGER.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4a/Mercury_in_true_color.jpg/640px-Mercury_in_true_color.jpg)