From Wikipedia, the free encyclopedia
Hormon yw Melatonin sy'n cael ei gynhyrchu gan y corffyn pineol (ynghyd â lleoliadau eraill) ac sy'n rheoleiddio effröwch.[1] Mae hefyd yn wrthocsidydd nerthol ac yn rhyngweithio gyda'r system imiwnedd. Fel meddyginiaeth, mae'n cael ei ddefnyddio i drin anhunedd, ond mae amrywiaeth barn gymysg ynghylch ei effeithiolrwydd.[2]
Cafodd melatonin ei ddarganfod gyntaf mewn cysylltiad â'r mecanwaith sy'n galluogi rhai amffibiaid ac ymlusgiaid i newid lliw eu crwyn.[3][4] Mor gynnar â 1917, llwyddodd Carey Pratt McCord a Floyd P. Allen i ddarganfod bod bwydo echdynion o gorffynau pineol gwartheg yn goleuo crwyn penbyliaid trwy fagu'r melanofforau epidermol tywyll.[5][6]
Yn 1958, aeth yr athro mewn dermatoleg Aaron B. Lerner a chydweithwyr ym Mhrifysgol Yale, ati i ynysu'r hormon o'r echdyniadau o gorffynau pineol buchol yn y gobaith y byddai'n ddefnyddiol i drin afiechydon croen, a'i alw yn melatonin.[7] Yng nghanol y 1970au y darganfuwyd[8] bod cynhyrchu melatonin yn arddangos rhythm circadaidd mewn corffynau pineol dynol.
Yn 1993 y darganfuwyd bod melatonin yn wrthocsidydd.[9] Rhoddwyd patent i Richard Wurtman o MIT yn 1995 i'w ddefnyddio fel cymorth i gysgu.[10] O gwmpas yr un adeg, cafodd yr hormon lawer o sylw yn y wasg fel triniaeth bosibl i nifer o afiechydon.[11][12] Serch hynny, mae profion o'i effeithiolrwydd fel triniaeth ar gyfer amryw o afiechydon hyd yma wedi bod yn gymysg, gyda nifer yn amhendant neu'n amheus.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.