Awdur, golygydd a chyfieithydd o Gymraes From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfieithydd, golygydd ac awdur o Gymraes yw Meinir Pierce Jones (ganed 1957). Addysgwyd Meinir yn Ysgol Nefyn, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor.
Meinir Pierce Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1957 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | awdur, cyfieithydd |
Plant | Casia Wiliam |
Cyhoeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Y Gongol Felys yn 2005 ac fe'i dewisiwyd ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006.[1] Mae hi wedi ysgrifennu dau lyfr i blant yn y gyfres Chwedlau o Gymru, sef Bargen Siôn ac Y Bychan Benthyg.
Enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Capten yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022.[2]
Ei swydd gyntaf oedd swyddog golygyddol gyda'r Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth. Ers hynny bu'n gweithio fel awdur a chyfieithydd a sgriptwraig yn bennaf. Bu hefyd yn gweithio fel rheolwr prosiect i ailagor a rhedeg Amgueddfa Forwrol Llŷn rhwng 2011 a 2019.
Yn fwy diweddar roedd yn gweithio fel golygydd creadigol gyda Gwasg y Bwthyn yng Nghaernarfon.
Cafodd ei magu ar fferm ar gyrion Nefyn ac ar ôl crwydro dipyn daeth adref, ac yno y mae hi a'i chymar Geraint yn byw ers chwarter canrif a mwy. Mae ganddyn nhw bedwar o blant - Math, Casia, Efa a Sabel.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.