Y Fedal Ryddiaith
From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o brif wobrau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, am gyfrol o ryddiaith yw'r Fedal Ryddiaith. Mae'r seremoni wobrwyo yn digwydd ar ddydd Mercher yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r gyfrol lwyddiannus yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr Eisteddfod ac mae'r llenor llwyddiannus yn cael ymuno â'r Orsedd, yn Urdd y Wisg Wen, y flwyddyn ganlynol, os nad yw eisoes yn aelod. Fe gyflwynwyd y fedal hon am y tro cyntaf ym 1937.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol ...
Cau