![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1d/Mary_Dillwyn_M.D._1853.jpg/640px-Mary_Dillwyn_M.D._1853.jpg&w=640&q=50)
Mary Dillwyn
ffotograffydd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffotograffwraig Gymreig oedd Mary Dillwyn (1816-1906). Mae lle i gredu mai hi oedd y fenyw gyntaf yng Nghymru i dynnu ffotograffiau, a hynny yn y 1840au a'r 1850au. Mae gwaith ffotograffeg Mary Dillwyn yn fwy naturiol na gwaith ei chyfoeswyr.[angen ffynhonnell] Ei hoff bynciau oedd blodau, anifeiliaid, ei theulu a'i chyfeillion. Mae Dillwyn yn ffigwr allweddol yn hanes ffotograffwyr benywaidd o ran ei phortread o fywyd y cartref. Oherwydd hynny, rhoddodd hi gipolwg i fywydau domestig menywod a phlant yn byw mewn y 19g, Prydain. Roedd hi'n chwaer i'r ffotograffydd John Dillwyn Llewelyn (1810-1882), arloeswr yn y maes; a'r Aelod Seneddol Lewis Llewelyn Dillwyn (1814-1892). Roedd hi'n byw ym mhentref Penlle'r-gaer, ger Abertawe.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Mary Dillwyn | |
---|---|
![]() Mary Dillwyn. Hunan-bortread, c. 1853 | |
Ganwyd | 1816 ![]() Cymru ![]() |
Bu farw | Rhagfyr 1906 ![]() Cymru ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | ffotograffydd ![]() |
Tad | Lewis Weston Dillwyn ![]() |
Mam | Mary Adams ![]() |
Priod | Montague Earle Welby ![]() |
Perthnasau | Thereza Dillwyn Llewelyn ![]() |
Cau