From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae David Mark Rylance Waters (ganed 18 Ionawr 1960) yn actor, cyfarwyddwr theatr a dramodydd Seisnig. Ef oedd cyfarwyddwr artistig cyntaf Glôb Shakespeare yn Llundain, o 1995 i 2005. Cynhwysa ei ymddangosiadau ffilm Prospero's Books (1991), Angels and Insects (1995), Institute Benjamenta (1996), ac Intimacy (2001). Enillodd Rylance Wobr yr Academi a Gwobr BAFTA ar gyfer yr Actor Cefnogol Gorau yn dilyn ei berfformiad fel Rudolf Abel yn Bridge of Spies (2015). Yn 2016 serenna yn y rôl deitl yn ffilm Steven Spielberg The BFG, addasiad acsiwn-byw o'r llyfr plant gan Roald Dahl.
Mark Rylance | |
---|---|
Llais | Mark Rylance voice.ogg |
Ganwyd | 18 Ionawr 1960 Ashford |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | dramodydd, actor llwyfan, actor ffilm, cyfarwyddwr theatr, actor teledu |
Priod | Claire van Kampen |
Perthnasau | Juliet Rylance |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Deledu yr Academi Brydeinig am Actor Gorau, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Marchog Faglor, Gwobr Drama Desk ar gyfer Actor Eithriadol mewn Drama, Drama League Award, Sam Wanamaker Award |
Gwefan | http://www.markrylance.co.uk/ |
Gwnaeth Rylance ei ddebut proffesiynol yn Theatr y Citizens, Glasgow yn 1980. Aeth yn ei flaen i ennill y Wobr Olivier ar gyfer yr Actor Gorau ar gyfer Much Ado About Nothing yn 1994 a Jerusalem yn 2010, a'r Wobr Tony ar gyfer yr Actor Gorau mewn Drama ar gyfer Boeing Boeing yn 2008 a Jerusalem yn 2011. Enillodd trydedd gwobr Tony yn 2014 ar gyfer Twelfth Night. Ar deledu, enillodd y Wobr BAFTA TV ar gyfer yr Actor Gorau ar gyfer ei rôl fel David Kelly yn nrama 2005 Channel 4 The Government Inspector a fe'i enwebwyd ar gyfer Gwobrau Emmy, Golden Globe and Screen Actors Guild ar gyfer chwarae Thomas Cromwell ym mini-gyfres 2015 BBC Two Wolf Hall.
Ganwyd Rylance yn Ashford, Caint, i Anne (Skinner yn gynt) a David Waters, y ddau yn athrawon Saesneg. Roedd un o'i famau cu yn Wyddeles.[1] Roedd ei ddau dad-cu yn garcharorion rhyfel i Siapan yn yr Ail Ryfel Byd.[2] Mae gan Rylance chwaer o'r enw Susannah, cantores opera ac awdur, a brawd, Jonathan, sy'n gweithio fel sommelier yn y tŷ bwyty Chez Panisse yn Berkeley, Califfornia.[3] Symudodd ei rieni i'r Unol Daleithiau yn 1962, yn gyntaf i Connecticut ac wedyn i Wisconsin yn 1969, lle ddysgodd ei dad Saesneg ym Mhrifysgol Milwaukee. Mynychodd Rylance yr ysgol hon. Serennodd yn rhaf fwyaf o ddramâu'r ysgol gyda chyfarwyddwr y theatr, Dale Gutzman, gan gynnwys y brif ran mewn cynhyrchiad 1976 o Hamlet.[4] Chwaraeodd Romeo yng nghynhyrchiad Romeo and Juliet yr ysgol.
Dechreuodd Rylance ganlyn y gyfarwyddwraig, cyfansoddwraig a dramodydd Claire van Kampen yn 1987 tra'n gweithio ar gynhyrchiad o The Wandering Jew yn y Theatr Genedlaethol, a phriodasant yn Swydd Rydychen ar 21 Rhagfyr 1989.[5] Trwy'r briodas hon, daeth yn lys-dad i'w dwy ferch o briodas flaenorol, yr actores Juliet Rylance a'r wnethurwraig ffilmiau Nataasha van Kampen. Bu Nataasha farw yng Ngorffennaf 2012 yn 28 mlwydd oed, yn dilyn hyn, tynnodd Rylance yn ôl o'i ran yn seremoni agoriadol Gemau'r Olympaidd 2012. Cymerodd Kenneth Branagh ei le.[6][7]
Mae Rylance wedi bod yn gefnogwr o'r sefydliad ar gyfer hawliau brodorol Survival International am lawer o flynyddoedd.[8] Ef yw crëwr a chyfarwyddwr "We Are One", digwyddiad codi arian a gymerodd le yn Theatr yr Apollo ym mis Ebrill 2010. Cynhwysodd y noson berfformiadau o ryddiaith a barddoniaeth lwythol o rai o actorion a cherddorion blaenaf y byd.
Mae Rylance yn noddwr i Peace Direct a Stop the War Coalition.[9] Perfformiodd fywyd a geiriau Henri, dyn sy'n byw yng nghanol rhyfel yn nwyrain Congo, yn ystod cyflwyniad yn Ninas Efrog Newydd yn 2011. Mae hefyd yn noddwr i Gwmni Theatr The Outside Edge, sy'n gweithio trwy greu theatr a drama gyda phobl sydd wedi cael eu heffeithio gan gamddefnydd sylweddau. Darpara ymyraethau mewn triniaeth cyffuriau ac alcohol a chyfleusterau cyffredinol i'r gymuned ar draws Prydain. Cynhyrcha hefyd cynyrchiadau theatr proffesiynol i'r cyhoedd sy'n cymryd lle mewn theatrau, theatrau stiwdio a chanolfannau celfyddydau.
Daeth Rylance yn noddwr i LIFT (Gŵyl Theatr Ryngwladol Llundain) yn 2013. Tra'n sôn am yr ŵyl, meddai: "I feel LIFT has done more to influence the growth and adventure of English theatre than any other organisation we have."[10]
Daeth Rylance yn noddwr i'r prosiect Speech Bubbles Archifwyd 2016-03-06 yn y Peiriant Wayback gan Gwmni Theatr Swigen Llundain yn 2015. “I found a voice through making theatre and am proud to be the patron of Speech Bubbles, which helps hundreds of children to do the same.”
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1985 | The McGuffin | Gavin | |
1987 | Hearts of Fire | Fizz | |
1991 | The Grass Arena | John Healy | |
1991 | Prospero's Books | Ferdinand | |
1995 | Institute Benjamenta | Jakob von Gunten | |
1995 | Angels & Insects | William Adamson | |
2000 | William Shakespeare | Cyfarwyddwr artistig | Glôb Shakespeare |
2001 | Intimacy | Jay | |
2008 | The Other Boleyn Girl | Thomas Boleyn | |
2011 | Blitz | Bruce Roberts | |
2011 | Anonymous | Henry Condell | |
2013 | Days and Nights | Stephen | |
2015 | The Gunman | Cox | |
2015 | Bridge of Spies | Rudolf Abel | Gwobr yr Academi ar gyfer yr Actor Cefnogol Gorau
Gwobr AACTA International ar gyfer yr Actor Cefnogol Gorau Gwobr BAFTA ar gyfer yr Actor Gorau mewn Rôl Gefnogol |
2016 | The BFG | Yr CMM | Ôl-gynhyrchu |
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1985 | Wallenberg: A Hero's Story | Nikki Fodor | |
1993 | Love Lies Bleeding | Conn | |
1995 | Loving | Charlie Raunce | |
1995 | Hamlet | Hamlet | |
1997 | Henry V | King Henry V | |
2001 | Changing Stages | Himself | |
2003 | Leonardo | Leonardo da Vinci | |
2003 | Richard II | Richard II | |
2005 | The Government Inspector | David Kelly | |
2014 | Bing | Flop (llais) | |
2015 | Wolf Hall | Thomas Cromwell |
Blwyddyn | Cyfnod | Perfformiad Theatraidd | Cymeriad Theatraidd | Theatr y Perfformiad |
---|---|---|---|---|
1981 | Desperado Corner | Bazza | Theatr y Citizens, Glasgow | |
1982 | The Tempest | Ariel | ||
1989 | Hamlet | Hamlet | (Perfformio gyda'r Cwmni Brenhinol Shakespeare) | |
Romeo and Juliet | Romeo | |||
1991 | Hamlet | Hamlet | (Perfformio gyda'r Theatr Repertory Americanaidd) | |
The Seagull | Treplev | |||
1993 | Henry V | Henry V | TFANA, Efrog Newydd | |
Much Ado About Nothing | Benedick | Theatr y Queens | ||
1994 | As You Like It | Touchstone | TFANA, Efrog Newydd | |
True West | Lee/Austin | Donmar Warehouse | ||
1995 | Macbeth | Macbeth | Theatr y Greenwich | |
2000 | Live x 3 | Henry | Theatr Frenhinol Genedlaethol | |
2007 | Boeing Boeing | Robert | Theatr Gomedi | |
I am Shakespeare | Frank | Taith y DU | ||
2008 | Peer Gynt | Peer Gynt | Theatr y Guthrie, Minneapolis | |
Boeing Boeing | Robert | Theatr y Longacre T, Dinas Efrog Newydd | ||
2009 | Gorff–Awst | Jerusalem gan Jez Butterworth | Johnny Byron | Theatr y Llys Brenhinol |
Hyd–Rhag | Endgame gan Samuel Beckett | Hamm | Theatr y Duchess | |
2010 | Ion–Ebr | Jerusalem gan Jez Butterworth | Johnny Byron | Theatr yr Apollo |
Meh–Awst | La Bete gan David Hirson | Valere | Theatr Gomedi | |
Medi–Chwe | Theatr y Music Box, Broadway | |||
2011 | ||||
Ebr–Awst | Jerusalem gan Jez Butterworth | Johnny Byron | Theatr y Music Box, Broadway | |
Hyd–Ion | Theatr yr Apollo | |||
2012 | Tach–Chwe 2013 | aryneilio yn Richard III a Twelfth Night | Richard III / Olivia | Theatr yr Apollo |
2013 | Ebr–Mai |
Nice Fish gan Mark Rylance a Louis Jenkins |
Ron | Theatr y Guthrie |
2013 | Hyd–Chwe | aryneilio yn Richard III a Twelfth Night | Richard III / Olivia | Theatr y Belasco, Broadway |
2014 | ||||
2015 | Chwe–Maw | Farinelli and the King gan Claire van Kampen | King Philippe V | Chwaraedy Sam Wanamaker |
Medi-Rhag | Theatr y Dug Efrog | |||
2016 | Ion-Chwe | Nice Fish gan Mark Rylance a Louis Jenkins | Ron | St. Ann's Warehouse[11] |
Ynghyd â pherfformiadau llwyfan Rylance, mae wedi ymddangos yn rheolaidd yng Glôb newydd Shakespeare yn Southwark, Llundain ar lan ddeheuol Afon Tafwys.
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1996 | The Two Gentlemen of Verona | Proteus | |
1997 | A Chaste Maid in Cheapside | Mr. Allwit | |
1997 | Henry V | Henry V | |
1998 | The Merchant of Venice | Bassanio | |
1998 | The Honest Whore | Hippolito | |
1999 | Antony and Cleopatra | Cleopatra | |
2000 | Hamlet | Hamlet | |
2001 | Cymbeline | Cloten | |
2002 | The Golden Ass | Lucius | |
2002 | Twelfth Night | Olivia | |
2003 | Richard II | Richard II | |
2004 | Measure for Measure | Dug Vincentio | |
2005 | The Tempest | Prospero Stephano | |
2005 | The Storm | Daemones Labrax | |
2012 | Richard III | Richard III | |
2012 | Twelfth Night | Olivia |
Mae Rylance wedi derbyn llawer o enwebiadau a gwobrau ar gyfer ei berfformiadau, gan gynnwys Gwobrau Tony a BAFTA. Yn yr 88ain Gwobrau'r Academi, enillodd Rylance Wobr yr Academi ar gyfer yr Actor Cefnogol Gorau ar gyfer ei berfformiad fel Rudolf Abel yn Bridge of Spies.[12]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.