(1200-1212) From Wikipedia, the free encyclopedia
Maredudd ap Cynan ab Owain neu Maredudd ap Cynan ab Owain Gwynedd (m. 1212), oedd arglwydd cantrefi Meirionnydd, Ardudwy a Llŷn (gyda'i frawd Gruffudd ap Cynan ab Owain). Roedd yn fab i'r tywysog Cynan ab Owain Gwynedd.
Maredudd ap Cynan ab Owain | |
---|---|
Ganwyd | 12 g |
Bu farw | 1212 |
Tad | Cynan ab Owain Gwynedd |
Mam | Angharad ferch Genillin |
Plant | Llywelyn Fawr ap Maredudd, Llawr Grach ap Maredudd ap Cynan ab Owain Gwynedd o Feifod |
Yn 1175 llwyddodd y ddau frawd i adennill eu tiriogaeth deuluol, sef cyfran eu tad, Cynan, ar ôl gorchfygu eu hewythr Dafydd ab Owain Gwynedd wedi marwolaeth eu tad yn 1174.
Yn y 1170au gwrthsafasant ymosodiadau ar eu tir gan yr Arglwydd Rhys, tywysog Deheubarth. Ymladdodd y ddau yn erbyn Rhodri ab Owain Gwynedd yn y 1190au cynnar ac erbyn 1194 roeddent yn gynghreiriaid i Lywelyn ab Iorwerth pan drechodd Dafydd ab Owain Gwynedd ym Mrwydr Aberconwy.
Bu farw Maredudd ap Cynan yn y flwyddyn 1212. Gadawodd ddau fab, Llywelyn Fawr (nid i'w gymysgu â'r tywysog o'r un enw) a Llywelyn Fychan.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.