![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6f/Mouths_of_amazon_geocover_1990.png/640px-Mouths_of_amazon_geocover_1990.png&w=640&q=50)
Marajó
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ynys yn aber afon Amazonas ar arfordir Brasil yw Marajó. Gydag arwynebedd o 40,100 km², hi yw'r ynys fwyaf yn y byd sydd a dŵr croyw o'i hamgylch. Mae'r boblogaeth tua 250,000. Saif dinas Belém ar lan ddeheuol afon Amazonas gyferbyn a'r ynys.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6f/Mouths_of_amazon_geocover_1990.png/640px-Mouths_of_amazon_geocover_1990.png)
Yn ystod yr epidemig mawr o'r ffliw Sbaenig yn 1918-1919, Marajó oedd yr unig ardal boblog lle na chofnodwyd unrhyw achos o'r afiechyd.