Manouba (talaith)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Talaith yng ngogledd Tiwnisia yw talaith Manouba. Mae'n gorwedd i'r gorllewin o ddinas Tiwnis. Ei phrifddinas yw Manouba, ar gwr dwyreiniol y dalaith, sy'n cael ei chyfrif gan amlaf yn rhan o ardal Tiwnis Fwyaf.
Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
Math | Taleithiau Tiwnisia |
---|---|
Prifddinas | Manouba |
Poblogaeth | 379,518 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiwnisia |
Gwlad | Tiwnisia |
Arwynebedd | 1,137 km² |
Cyfesurynnau | 36.80778°N 10.10111°E |
TN-14 | |
Cau
Rhed y rheilffordd sy'n cysylltu Tiwnis ac Alger, prifddinas Algeria, trwy'r dalaith. Mae afon Medjerda, afon fwyaf Tiwnisia, yn llifo trwy dalaith Manouba. Ceir tiroedd ffrwythlon ar ei lannau sy'n codi tua'r gogledd i rhagfryniau mynyddoedd coediog y Kroumirie, sy'n ymestyn ar hyd arfordir gogledd Tiwnisia i'r ffin ag Algeria, ger Tabarka.