![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f8/Falkland-Islands-Terra-2011-01-23-250m.jpg/640px-Falkland-Islands-Terra-2011-01-23-250m.jpg&w=640&q=50)
Ynysoedd y Falklands
ynysoedd ger yr Ariannin yng Ngogledd yr Iwerydd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Ynysoedd y Falklands neu Ynysoedd Malvinas (Saesneg: Falkland Islands, Sbaeneg: Islas Malvinas) wedi eu lleoli yn hemisffer y de yng Nghefnfor yr Iwerydd, 300 milltir (480 km) o'r Ariannin a 7,900 milltir o Loegr.[1]
![]() | |
Math | ynysfor ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Falkland Sound, Sant-Maloù ![]() |
Poblogaeth | 2,932 ![]() |
Cylchfa amser | UTC−03:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynysoedd y Malvinas ![]() |
Gwlad | y Deyrnas Unedig, yr Ariannin ![]() |
Gerllaw | De Cefnfor yr Iwerydd, Argentine Sea, Falkland Sound ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8°S 59.52°W ![]() |
![]() | |
![]() | |
Ceir tystiolaeth i bobl wladychu'r ynysoedd yn y cyfnod cynhanes.[2][3] Ganrifoedd yn ddiweddarach, yn 1765, ymgartrefodd morwyr o Loegr yng Ngorllewin y Falkland, ond cawsant eu gyrru oddi yno yn 1770 gan y Sbaenwyr, a oedd wedi cymryd drosodd yr anheddiad Ffrengig tua 1767. Tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig yw'r ynysoedd, bellach. Ymosododd byddin yr Ariannin ar yr ynysoedd ym 1982, a brwydrodd y Deyrnas Unedig i'w hadennill yn Rhyfel y Falklands. Mae dwy brif ynys, Dwyrain Falkland a Gorllewin Falkland, a 776 o ynysoedd llai.