![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f5/Maluku_Islands_en.png/640px-Maluku_Islands_en.png&w=640&q=50)
Maluku
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae ynysoedd Maluku (hefyd y Moluccas) yn ynysoedd yn Indonesia, wedi eu lleoli i'r dwyrain o Sulawesi, i'r gorllewin o Gini Newydd ac i'r gogledd o Timor.
![]() | |
Math | grŵp o ynysoedd ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,895,000 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+09:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysfor Maleia ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 74,505 km² ![]() |
Uwch y môr | 3,027 metr ![]() |
Gerllaw | Molucca Sea ![]() |
Cyfesurynnau | 2°S 128°E ![]() |
ID-ML ![]() | |
![]() | |
Nid yw'r rhan fwyaf o'r ynysoedd yn fawr; mae arwynebedd y cyfan tua 74,505 km² gyda poblogaeth o 1,895,000 yn 2000. Mae'r rhan fwyaf o'r ynysoedd yn fynyddig, a nifer gyda llosgfynyddoedd byw arnynt. Yn y 1950au datblygodd mudiad oedd yn anelu at annibyniaeth i ran ddeheuol Maluku (De Maluku, neu Maluku Selatan yn Indoneseg). O 1950 hyd 1999 roedd yr ynysoedd yn ffurfio un dalaith o Indonesia, ond yn y flwyddyn honno gwahanwyd hwy yn ddwy dalaith, Maluku a Gogledd Maluku. Rhwng 1999 a 2002 bu llawer o ymladd rhwng Cristionogion a dilynwyr Islam ar yr ynysoedd hyn, ond mae pethau wedi tawelu ers hynny.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/7e/IndonesiaMalukuIslands.png/320px-IndonesiaMalukuIslands.png)