![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0f/TN-12.svg/langcy-640px-TN-12.svg.png&w=640&q=50)
Mahdia (talaith)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Talaith yng nghanolbarth Tiwnisia yw talaith Mahdia. Mae'n gorwedd yng ngogledd-orllewin y canolbarth ar lan y Môr Canoldir ac mae'n ffinio ar daleithiau Sousse a Monastir i'r gogledd, Sfax i'r de a Kairouan i'r gorllewin. Mahdia, dinas hanesyddol a enwir ar ôl y Mahdi, proffwyd olaf Islam yn ôl rhai traddodiadau, yw prifddinas y dalaith a'i dinas fwyaf.
Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
Math | Taleithiau Tiwnisia ![]() |
---|---|
Prifddinas | Mahdia ![]() |
Poblogaeth | 410,812 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiwnisia ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,966 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 35.5°N 11.07°E ![]() |
TN-53 ![]() | |
![]() | |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0f/TN-12.svg/320px-TN-12.svg.png)
Mae'r dalaith yn rhan o ardal sy'n adnabyddus i ymwelwyr o Ewrop fel un o brif ganolfannau twristiaeth yn Nhiwnisia. Ceir traethau braf a nifer o westai ar hyd yr arfordir rhwng Mahdia a Monastir ond nid yw cefn gwlad wedi ei ddatblygu llawer.