Mahabharata
From Wikipedia, the free encyclopedia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o ddwy gerdd epig fawr India yw'r Mahabharata; y llall yw'r Ramayana. Mae'n cynnwys dros 74,000 o benillion a rhannau hir mewn rhyddiaith, tua 1.8 miliwn gair i gyd; sef tua deg gwaith maint yr Iliad a'r Odyssey gyda'i gilydd.
Mae’n gerdd o bwysigrwydd mawr yn niwylliant India ac yn un o weithiau pwysicaf Hindŵaeth. Yn draddodiadol, enwir yr awdur fel Vyasa.
Yn y gerdd ceir hanes yr ymladd am oruchafiaeth a gorsedd teyrnas Hastinapura rhwng dwy gangen o deulu Kuru. Arweinir cangen y Kaurava gan Duryodhana, a changen y Pandava gan Yudhisthira, y ddau yn hawlio'r orsedd. Diwedda'r ymladd gyda brwydr fawr Kurukshetra, lle mae'r Pandava yn fuddugoliaethus.
Diwedda'r Mahabharata ei hun gyda marwolaeth Krishna, ac esgyniad y brodyr Pandava i'r nefoedd. Dynoda hyn ddechrau oes newydd y Kali Yuga, oes Kali.
Efallai mai'r darn enwocaf o'r Mahabharata yw'r Bhagavad Gita; 700 pennill lle mae Krishna, cyn brwydr Kurukshetra, yn egluro i Arjuna beth yw ei ddyletswydd fel rhyfelwr ac fel tywysog, gan roi amlinelliad o holl athroniaeth Hindŵaeth.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.