From Wikipedia, the free encyclopedia
Seiclwr ffordd proffesiynol o Sweden ydy Magnus Bäckstedt (ganwyd 30 Ionawr 1975 yn Linköping, Östergötland). Mae'n reidio dros dîm Liquigas. Mae Magnus wedi ennill y llysenw 'Magnus Maximus' (Cymraeg: Magnus Mawr) gan ei fod yn 193 centimetr o daldra â phwysau o 94 cilogram, ef yw un o'r seiclwyr mwyaf ym myd seiclo proffesiynol. Dechreuodd ei yrfa proffesiynol gan reidio i dîm Collstrop yn 1996, cyn symyd ymlaen i dîm Palmans yn 1997. Wedi newid i dîm GAN, yn 1998, dechreuodd lwyddiant proffesiynol Bäckstedt gyda 7fed safle yn ras Paris-Roubaix a buddugoliaeth ar Gam 19 y Tour de France rhwng Chaux-de-Fonds a Autun. Ailenwyd GAN yn Crédit Agricole ar ddechrau tymor rasio 1999 a chariodd Magnus ymlaen i fod yn aelod o'r tîm tan 2001, heb ail-adrodd ei lwyddiant o 1998.
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Magnus Bäckstedt |
Llysenw | Magnus Maximus |
Dyddiad geni | 30 Ionawr 1975 |
Taldra | 1.93m |
Pwysau | 94kg |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd a weithiau Trac |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Arbenigwr y Clasuron |
Tîm(au) Proffesiynol | |
1996–1997 1998–2001 2002–2003 2004 2005– | |
Prif gampau | |
Paris-Roubaix, 2004 Cam 1, Tour de France, 2005 | |
Golygwyd ddiwethaf ar 19 Medi, 2007 |
Yn 2002 a 2003, reidiodd dros dîm Team Fakta, ef oedd y reidiwr cryfaf yn y tîm yn nhymor 2003. Wedi i dîm Team Fakta ddod i ben, symudodd i dîm Alessio-Bianchi a dychwelodd i lwyddiant yn ras Paris-Roubaix 2004. Symudodd i dîm Liquigas-Bianchi yn 2005, a bu'n ail safle ar Gam 7 y Tour de France, o Lunéville i Karlsruhe.
Bydd Bäckstedt yn reidio yn nhîm Team Slipstream yn nhymor 2008.[1]
Mae Magnus yn briod i'r seiclwraig Cymreig, Megan Hughes ac mae ganddynt ddau o blant. Ganed ei ferch hynaf, Elynor Megan Bäckstedt yn Ionawr 2002, a Zoe Jane Bäckstedt yn Nhachwedd 2004. Fel seiclwr proffesiynol mae Magnus wedi byw mewn sawl gwlad. Bu'n byw yn Zulte, Gwlad Belg yn 2003. Erbyn heddiw, mae'n byw yn Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg, ac yn ôl y BBC, nid yw'r siwr os mai Swedwr neu Gymro ydyw bellach ac roedd yn ystyried cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad dros Gymru.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.