München
prifddinas Bafaria, yn yr Almaen / From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yn ne'r Almaen ac yn brifddinas talaith Bafaria yw München (Bafareg: Minga).
Arwyddair | Weltstadt mit Herz |
---|---|
Math | tref goleg, dinas fawr, residenz, metropolis, canolfan ariannol, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of Bavaria, prif ddinas ranbarthol, Körperschaft des öffentlichen Rechts |
Enwyd ar ôl | mynach |
Poblogaeth | 1,512,491 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Solang der alte Peter |
Pennaeth llywodraeth | Dieter Reiter |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Caeredin, Kyiv |
Nawddsant | Benno |
Daearyddiaeth | |
Sir | Oberbayern |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 310.71 km² |
Uwch y môr | 519 ±1 metr |
Gerllaw | Isar, Isar-Werkkanal, Würm, Eisbach, Auer Mühlbach, Kleinhesseloher See, Dreiseenplatte, Kleine Isar, Nymphenburg Canal, Schwabinger Bach |
Yn ffinio gyda | Munich, Dachau, Fürstenfeldbruck, Garching bei München, Q55278376, Q55278629, Neubiberg, Oberschleißheim, Ismaning, Unterföhring, Aschheim, Feldkirchen, Haar, Putzbrunn, Unterhaching, Grünwald, Pullach, Neuried, Planegg, Gräfelfing |
Cyfesurynnau | 48.1375°N 11.575°E |
Cod post | 80331–81929, 85540 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Munich |
Pennaeth y Llywodraeth | Dieter Reiter |
Cost | 6,600,000,000 Ewro |
Gyda phoblogaeth o 1.36 miliwn yn Rhagfyr 2006, München yw trydydd dinas yr Almaen o ran poblogaeth; dim ond Berlin a Hamburg sy'n fwy. Dim ond 24,000 oedd y boblogaeth yn 1700, ond ers hynny mae'r boblogaeth wedi dyblu bob 30 mlynedd. Mae hefyd yn un o ddinasoedd cyfoethocaf Ewrop. Ystyr yr enw yw "mynachod", ac mae'r ffigwr ar bais arfau'r ddinas yn cynrychioli mynach.
Ceir y sôn cyntaf am y ddinas mewn dogfen yn 1158, pan oedd pont dros Afon Isar gerllaw mynachdy Benedictaidd. Pan ad-unwyd Bafaria yn 1506 daeth München yn brifddinas, ac yn 1806 daeth yn brifddinas Teyrnas Bafaria. Rhwng y ddau ryfel byd, yn München y cododd y Natsïaid a'u harweinydd Adolf Hitler i amlygrwydd. Yn 1923 ceisiodd ef a'i gefnogwyr gipio grym yma, ond methodd a charcharwyd ef.
Yng nghanol y ddinas mae'r Marienplatz, gyda Neuadd y Ddinas gerllaw. Yr adeilad enwocaf yma yw eglwys gadeiriol Gatholig y Frauenkirche. Mae nifer o dimau pêl-droed yn y ddinas, yn cynnwys yr enwocaf o glybiau pêl-droed yr Almaen, FC Bayern Munich. Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd yma yn 1972. Mae'r ddinas hefyd yn enwog am yr Oktoberfest, sydd, er gwaethaf ei enw, yn cael ei gynnal ym mis Medi, gan orffen ar y Sul cyntaf yn Hydref.