Môr Celebes
môr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Môr Celebes (Indoneseg: Laut Sulawesi; Ffilipino: Dagat Selebes) yng ngorllewin y Môr Tawel ac yn cael ei ffinio i'r gogledd gan ynysforoedd Sulu a Môr Sulu, ac Ynys Mindanao o'r Philipinau, ar y dwyrain gan gadwyn o Ynysoedd y Sangihe, i'r de gan Benrhyn Mizahassa yn Sulawesi, ac yn y gorllewin gan Kalimantan yn Indonesia. Mae'n ymestyn 675 km o'r gogledd i'r de a 840 km o'r dwyrain i'r gorllewin ac mae cyfanswm arwynebedd o 280,000 km sgwâr ac uchafswm dyfnder o 6,200m. Mae'r môr yn agor yn y de-orllewin trwy Gulfor Makassar i mewn i Môr Java.
Math | môr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Cefnfor Tawel |
Gwlad | Indonesia |
Arwynebedd | 280,000 km² |
Cyfesurynnau | 3°N 122°E |
Mae Môr Celebes yn rhan o hen môr basn a ffurfiwyd 42 miliwn o flynyddoedd yn ôl mewn mangre yn rhydd o unryw dirfas. Erbyn 20 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd symudiadau crawen y ddaear wedi symud y basn yn ddigon agos at losgfynyddoedd Indonesia a'r Philipinia i dderbyn eu gweddillion.[1] Erbyn 10 miliwn o flynyddoedd yn ôl roedd Môr Celebes yn boddi gyda malurion cyfandirol, gan gynnwys glo, a ollyngwyd gan fynydd newydd a dyfai ar Borneo a'r ffaith fod y basn wedi docio yn erbyn Ewrasia.
Mae'r ffin rhwng y moroedd Celebes a Sulu ar Grib Sibutu-Basilan. Mae cerrynt cefnforol cryf, ffosydd dyfn a môr-fynyddoedd, ynghyd ac ynysoedd llosgfynyddol gweithgar, yn arwain at nodweddion eigionegol cymhleth.