Llywarch Hen
tywysog Brythonaidd o'r 6ed g., ac arwr chwedloniaeth Gymreig o'r 9fed g. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Aelod o deulu brenhinol Rheged yn yr Hen Ogledd a ddaeth yn wrthrych y gadwyn o englynion a elwyd gan Ifor Williams yn Canu Llywarch Hen oedd Llywarch Hen (fl. diwedd y 6g). Mae'n bosibl ei fod wedi olynu Urien Rheged fel brenin Rheged (bu farw Owain fab Urien cyn ei dad), ond nid oes sicrwydd am hynny.