grwp o banhigion anflodeuol bach, o'r rhaniad Marchantiophyta From Wikipedia, the free encyclopedia
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu ( ynganiad ) neu llysiau'r iau (lluosog ac unigol; weithiau llys yr afu neu llys yr iau yn yr unigol). Mae tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu darganfod hyd yn hyn.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Maent yn blanhigion syml heb feinwe fasgwlaidd neu wreiddiau go iawn.[3] Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg. Mae rhywogaethau eraill yn tyfu fel thalws gwastad heb goesyn a dail.
Llysiau'r afu | |
---|---|
Llysiau'r afu palmwyddog (Marchantia polymorpha) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta Stotler & Crand.-Stotl. |
Dosbarthiadau ac urddau[1] | |
|
Fe'u rhennir i dri Dosbarth, o ran tacson, sef: Haplomitriopsida, Marchantiopsida a Jungermanniopsida.
Yn draddodiadol, grwpiwyd Llysiau'r afu gyda bryoffidiau eraill (sef mwsoglau a chyrnddail) yn y Rhaniad (neu "Ffylwm") a elwir yn "Bryophyta". Oddi fewn i'r rhaniad hwn galwyd y Dosbarth o lysiau'r afu yn "Hepaticae" (a hefyd yn "Marchantiopsida").[3][4] Fodd bynnag, gan fod hyn yn gwneud y grwp Bryophyta yn baraffiletig (paraphyletic), rhoir Rhaniad cyfan i'r grŵp, bellach.[5] Wrth gwrs, mae'r hen enw Bryophyta yn parhau rhwng cloriau llyfrau, ond erbyn heddiw, mae'r gair Bryophyta yn cynnwys mwsoglau'n unig.
Y rheswm arall dros roi Rhaniad cyfan i lysiau'r afu yw ei bod yn ymddangos iddynt rannu oddi wrth yr embryoffytau ymhell yn ôl, yn y cyfnod pan roedd esblygiad planhigion ar gychwyn. Nhw yw'r unig grwp o blanhigion tir nad oes ganddynt stomata yn y cyfnod Sporophyte.[6] Cafwyd hyd i ffosiliau o lysiau'r afu (y math Pallaviciniites) yn Efrog Newydd[7], sy'n hynod o debyg i'r Metzgeriales modern.[8] Cafwyd hyd, hefyd, i ffosil arall, sef y Protosalvinia, o'r un cyfnod, sef y cyfnod Defonaidd Uchaf. Yn 2017 cafwyd hyd i ffosil o'r math Metzgeriothallus sharonae, eto yn Efrog Newydd, ac a ddyddiwyd i ganol y cyfnod Defonaidd.[9] Ond y ffosiliau hynaf, hyd yma (2019) yw'r 5 math gwahanol o sborau llysiau'r afu, a ganfuwyd yn yr Ariannin yn 2010, ac sy'n perthyn i'r cyfnod Ordofigaidd, ac a ddyddiwyd i tua 470 miliwn o flynyddoedd CP.[10][11]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.