![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/da/Gh-map.png/640px-Gh-map.png&w=640&q=50)
Llyn Volta
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cronfa ddŵr yn ne-ddwyrain Ghana yw Llyn Volta. O ran arwynebedd, Volta yw'r gronfa fwyaf yn y byd, gydag arwynebedd o 8,502 km².
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/da/Gh-map.png/320px-Gh-map.png)
Crewyd y gronfa trwy adeiladu Argae Akosombo ar draws afon Volta. Dechreuwyd ar y gwaith yn 1961, a gorffennwyd ef yn 1965. Bu raid symud tua 78,000 o bobl. Mae'r argae yn cynhyrchu digon o drydan i'r rhan fwayf o'r wlad.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/19/Volta-lake-ghosttree.jpg/640px-Volta-lake-ghosttree.jpg)