Llyn Edno
llyn, Gwynedd, Cymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Edno, sy'n golygu llyn adar, o'r gair edn. Saif i'r gogledd o gopa Cnicht ac i'r de o gopa Moel Siabod, ychydig i'r dwyrain o gopa is Moel Meirch. Mae arwynebedd y llyn yn 10 acer, a saif 1,797 troedfedd uwch lefel y môr.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Cau
Mae Afon Llyn Edno yn llifo tua'r gorllewin o'r llyn i ymuno ag Afon Glaslyn gerllaw pentref Bethania yn Nant Gwynant, tua hanner y ffordd rhwng Llyn Gwynant a Llyn Dinas. Nid yw Afon Cwm Edno yn tarddu o'r llyn; yn hytrach mae'n tarddu ar y llechweddau ychydig i'r gogledd o'r llyn ac yn llifo tua'r gogledd i lawr Cwm Edno. Yn y cwm yma y daeth awyren Aer Lingus i lawr ar 10 Ionawr, 1952, pan laddwyd 23 o deithwyr.