![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/7c/Niger_River_Center_Island.jpg/640px-Niger_River_Center_Island.jpg&w=640&q=50)
Llyn Débo
From Wikipedia, the free encyclopedia
Llyn mawr yng nghanolbarth Mali, gorllewin Affrica, a ffurfir gan orlifiad tymhorol Afon Niger yw Llyn Débo.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/7c/Niger_River_Center_Island.jpg/640px-Niger_River_Center_Island.jpg)
Ar ei fwyaf, ar ôl i'r Niger orlifo mae Llyn Débo yn gorwedd tua 80 km o ddinas Mopti a thua 240 km o Tombouctou (Timbuktu). Dyma'r mwyaf o sawl llyn tymhorol a gwlybdir ym Mali sy'n ffurfio Delta Mewndirol Afon Niger, a'r llyn mwyaf ym Mali. Mae ei arwynebedd yn lleihau yn sylweddol yn y tymor sych, o fis Medi hyd Mawrth.
Mae'r pobloedd Bozo yn pysgota ar y llyn yn y tymor gwlyb tra bod y bobl Fula yn arfer amaeth a hwsmonaeth ar ei lannau yn y tymor sych.
Mae'r llyn yn arosfan bwysig i adar mudol, ac mae wedi cael ei ddynodi yn safle arbennig i'r adar hynny gan UNESCO.