![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cc/Llyn_Crafnant_from_the_summit_of_Crimpiau_-_geograph.org.uk_-_223759.jpg/640px-Llyn_Crafnant_from_the_summit_of_Crimpiau_-_geograph.org.uk_-_223759.jpg&w=640&q=50)
Llyn Crafnant
llyn yng Nghyngor Bwrdeisdref Conwy / From Wikipedia, the free encyclopedia
Llyn yn sir Conwy yw Llyn Crafnant. Saif ar ochr ogleddol Coed Gwydyr ac oddi tan grib Cefn Cyfarwydd. Mae bron filltir o hyd, gydag arwynebedd o 63 acer a dyfnder o 71 troedfedd yn y man dyfnaf. Llifa Afon Crafnant o'r llyn i ymuno ag Afon Conwy.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | cronfa ddŵr, llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Trefriw ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 0.235 km² ![]() |
Uwch y môr | 188 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.131675°N 3.871443°W ![]() |
Rheolir gan | Ymddiriedolaeth Crafnant ![]() |
![]() | |
Cau
Adeiladwyd argae yma yn 1874, a gerllaw mae cofeb a godwyd gan drigolion Llanrwst yn 1896 fel arwydd o ddiolgarwch am y rhodd iddynt o'r llyn a 19 acer o dir gan Richard James.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/47/Llyn_Crafnant%2C_Cyngor_Bwrd_Conwy_-_Llyn_Crafnant%2C_W_of_Llanrwst%2C_Conwy_B_Council%2C_Wales_32.jpg/640px-Llyn_Crafnant%2C_Cyngor_Bwrd_Conwy_-_Llyn_Crafnant%2C_W_of_Llanrwst%2C_Conwy_B_Council%2C_Wales_32.jpg)
Gellir cyrraedd ato ar hyd y ffordd o Drefriw neu gerdded o ardal Llyn Geirionydd dros Fynydd Deulyn. Ceir maes parcio sy'n eiddo'r Comisiwn Coedwigaeth yma, a cheir pysgota am frithyll.