![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/3/33/Dawn_Dweud_Lewis_Edwards_%2528llyfr%2529.jpg/640px-Dawn_Dweud_Lewis_Edwards_%2528llyfr%2529.jpg&w=640&q=50)
Llyfr y Flwyddyn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cystadleuaeth flynyddol yw Llyfr y Flwyddyn a wobrwyir i’r gweithiau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/3/33/Dawn_Dweud_Lewis_Edwards_%28llyfr%29.jpg/320px-Dawn_Dweud_Lewis_Edwards_%28llyfr%29.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/1/13/Ll%C3%AAn_yr_Uchelwyr_Hanes_Beirniadol_Llenyddiaeth_Gymraeg_1300-1525_%28llyfr%29.jpg/320px-Ll%C3%AAn_yr_Uchelwyr_Hanes_Beirniadol_Llenyddiaeth_Gymraeg_1300-1525_%28llyfr%29.jpg)
Ers 2004, gweinyddir y Wobr gan Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth. Yn 2012, cyflwynwyd categorïau i’r gystadleuaeth am y tro cyntaf, gyda gwobrau ar gyfer y Ffuglen, Barddoniaeth a llyfr Ffeithiol Greadigol yn ogystal â'r brif wobr. Yn 2020, cyflwynwyd y categori newydd "Plant a Phobl Ifanc".