From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Llwyd y Gwrych, Prunella modularis, yn gyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a rhan o Asia. Hwn yw'r unig aelod o'r teulu Prunellidae sydd i'w gael ar dir isel - mae'r gweddill yn adar mynydd. Mae tua'r un faint a Robin Goch, 13.5–14 cm o hyd.
Llwyd y Gwrych | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Prunellidae |
Genws: | Prunella |
Rhywogaeth: | P. modularis |
Enw deuenwol | |
Prunella modularis (Linnaeus, 1758) | |
Mae bywyd rhywiol yr aderyn hwn yn gymhleth a diddorol. Gall yr iar baru gyda dau geiliog neu hyd yn oed fwy na dau, ac mae'r un peth yn wir am y ceiliogod. Gall fod yn aderyn mudol mewn rhai gwledydd lle ceir gaeafau oer, ond yng Nghymru mae'n aros trwy'r flwyddyn.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.