pentref yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llangeler. Saif i'r dwyrain o Gastell Newydd Emlyn, rhwng Dre-fach Felindre a Llandysul ac ar lan ddeheuol Afon Teifi. Mae mynwent gron yr eglwys yn awgrymu ei bod yn sefydliad hynafol dros ben, a cheir ffynnon sanctaidd gerllaw.
Capel Saron | |
Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Poblogaeth | 3,427, 3,424 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 6,030.87 ha |
Cyfesurynnau | 52.0167°N 4.3833°W |
Cod SYG | W04000529 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
Tua cilometr i'r gogledd-ddwyrain saif Castell Pistog, sef hen domen o'r Oesoedd Canol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llangeler (pob oed) (3,427) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangeler) (1,812) | 54.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangeler) (2031) | 59.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llangeler) (588) | 39.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.