pentref a chymuned yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Ngwynedd, Cymru, yw Llanfair ( ynganiad ). Saif ger y briffordd A496 tua milltir a hanner i'r de o Harlech, hanner ffordd rhwng y dref honno a phentref Llanbedr. Ar un adeg bu gwaith llechi yn bwysig i'r economi lleol.
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 453, 380 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,807.99 ha |
Cyfesurynnau | 52.8399°N 4.1133°W |
Cod SYG | W04000077 |
Cod OS | SH576291 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Mae'r pentref dafliad carreg o lan y môr gyda golygfa dros Fae Ceredigion i benrhyn Llŷn a bryniau Eryri. I'r gogledd mae Morfa Harlech yn dechrau ac yn ymestyn i'r Traeth Bach. Y tu ôl i'r pentref, i'r dwyrain, mae rhes o fryniau'n codi; ceir nifer o hynafiaethau arnynt, yn cynnwys siambrau claddu a meini hirion. I'r de-orllewin, hanner milltir i ffwrdd, ceir pentref bychan Llandanwg a'i eglwys hynafol. Mae nifer o dai ac adeiladau eraill y pentref yn enghreifftiau da o adeiladwaith lleol â cherrig mawr.
Eglwys Fair yw eglwys y plwyf. Ceir ysgrîn o'r 17g ynddi. Yno hefyd gellir gweld beddfaen y llenor Ellis Wynne, awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsc, a gladdwyd yno yng Ngorffennaf 1734.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanfair (Gwynedd) (pob oed) (453) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfair (Gwynedd)) (201) | 45% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfair (Gwynedd)) (188) | 41.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfair (Gwynedd)) (132) | 56.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.