Seiclwraig trac Seisnig ydy Laura Rebecca Trott , neu Laura Kenny (ganwyd 24 Ebrill 1992 ), sy'n arbenigo yn y Ras ymlid tîm a'r omnium . Trott yw'r ferch Brydeinig sydd â'r nifer fwyaf o fedalau aur Olympaidd ar ôl iddi ennill medal aur yn y ddau ddisgyblaeth yng Ngemau Olympaidd 2012 a 2016 [2] . Enillodd Laura a Katie Archibald medal aur yn y Madison yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020 .[3] O ganlyniad i'w pherfformiadau yn 2021, hi yw'r athletwr Olympaidd benywaidd Prydeinig mwyaf llwyddiannus.[4]
Ffeithiau sydyn Gwybodaeth bersonol, Enw llawn ...
Laura Trott Gwybodaeth bersonol Enw llawn Laura Trott Dyddiad geni (1992-04-24 ) 24 Ebrill 1992 (32 oed) Taldra 1.63 m[1] Pwysau 52 kg[1] Manylion timau Disgyblaeth Trac Rôl Reidiwr Math seiclwr Dygner Tîm(au) Proffesiynol
2011 2012
Moving Ladies Team Ibis Cycles
Cau
Ganed Trott yn Harlow , Essex ond roedd fis yn gynnar ac roedd cymhlethdod gan iddi ddioddef ysgyfaint wedi cwympo[5] . Cafwyd ei bod ag asthma yn ddiweddarach gyda'r meddygon yn crybwyll y dulai gymryd rhan mewn chwaraeon fel ffordd i reoli ei hanadlu[6] [7] .
Mae ei chwaer hŷn Emma Trott yn gyn feicwraig proffesiynol gyda thîm Boels-Dolmans yn yr Iseldiroedd[8] ac roedd yn ddwy yn aelodau o garfan beicio Lloegr yng Ngemau'r Gymanwlad 2010 yn Delhi Newydd , India [9] .
Dechreuodd y ddwy chwaer seiclo gyda'u mam oedd am golli pwysau[10] .
Mae Trott yn wraig i'r seiclwr Jason Kenny .
Cafodd Trott lwyddiant cynnar gan ennill yr omnium dan14 ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain cyn dod yn aelod o garfan datblygu British Cycling .
Mae Trott wedi ennill Pencampwriaeth y Byd a Phencampwriaeth Ewrop ar bedair achlysur fel aelod o dîm Ras ymlid tîm Prydainac hefyd yn gyn Bencampwr Byd yng nghystadleuaeth yr omnium [11] [12] .
Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012 enillodd Trott fedal aur yn y Ras ymlid tîm ynghyd â Dani King a Joanna Rowsell [13] gan greu record byd o 3:14.051 yn y rownd derfynol yn erbyn Unol Daleithiau America [14] , record oedd y tîm wedi llwyddo i'w dorri ar chwe achlysur yn olynol[13] . Dau ddiwrnod yn ddiweddarach casglodd Trott fedal aur yn yr omnium[15] [16]
Yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro , Brasil , llwyddodd Trott i efelychu ei champau yn llundain gan ennill medal aur fel aelod o dîm Ras ymlid tîm Prydain Fawr gyda Joanna Rowsell , Elinor Barker a Katie Archibald , gyda'r pedwarawd yn llwyddo i dorri y record byd yn y rownd derfynol[17] a chasglodd ei phedwaredd medal aur, gan ddod y ferch Prydeinig sydd â'r nifer fwyaf o fedalau aur Olympaidd [2] .
2008
3ydd Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain , Iau
2009
2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Cylchffordd Prydain
1af Ras ymlid, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain , Iau
1af Ras bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain , Iau
2il Treial amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain , Iau
3ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Madison Prydain (gyda Hannah Mayho )
2010
1af Ras ymlid tîm, Pencampwriaethau Trac Ewrop 2010
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Derny Prydain
3ydd Ras ymlid, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af Ras ymlid, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain , Iau
1af Treial amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain , Iau
2il Ras bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain , Iau
2il Ras scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain , Iau
2011
1af Ras ymlid tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Omnium, Pencampwriaethau Trac Ewrop 2011
1af Ras ymlid tîm, Pencampwriaethau Trac Ewrop 2011
1af Ras ymlid tîm, Cwpan y Byd Trac, UCI , Cali
1af Ras ymlid, Pencampwriaethau Trac Ewrop 2011 , Dan 23
1af Ras scratch, Pencampwriaethau Trac Ewrop 2011 , Dan 23
1af Ras ymlid tîm, Pencampwriaethau Trac Ewrop 2011 , Dan 23
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain , Dan 23
2il Ras ymlid, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2il Ras bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2il Ras scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
3ydd Omnium, Cwpan y Byd Trac, UCI , Cali
3ydd Treial amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2012
1af Omnium, Gemau Olympaidd yr Haf 2012
1af Ras ymlid tîm, Gemau Olympaidd yr Haf 2012
1af Omnium, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Ras ymlid tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Ras ymlid tîm, Cwpan y Byd Trac, UCI , Llundain
3ydd Omnium, Cwpan y Byd Trac, UCI , Llundain
2013
Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2013
1af Ras ymlid tîm
2il Omnium
Pencampwriaethau Trac Ewrop 2013
1af Ras ymlid tîm
1af Omnium
UEC Pencampwriaethau Trac Ewrop U23
1af Ras ymlid unigol
1af Omnium
1af Ras bwyntiau
1af Road Race, National U23 Road Championships
Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain 2013
1af Ras ymlid tîm
1af Ras bwyntiau
1af Ras ymlid unigol
1af Madison
Cwpan y Byd Trac, UCI
1af Ras ymlid tîm – Manceinion
1af Omnium – Manceinion
2il Omnium – Aguascalientes
3ydd Ras scratch, Chwyldro – Round 1, Manceinion
2014
Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2014
1af Ras ymlid tîm
2il Omnium
Pencampwriaethau Trac Ewrop 2014
1af Ras ymlid tîm
1af Omnium
1af Ras bwyntiau, Gemau'r Gymanwlad 2014
National Track Championships
1af Ras ymlid tîm
1af Ras scratch
2il Ras ymlid unigol
3ydd Ras bwyntiau
Cwpan y Byd Trac, UCI 2014-15
1af Ras ymlid tîm – Guadalajara
1af Ras ymlid tîm – Llundain
1af Omnium – Llundain
Chwyldro
1af Omnium – Rownd 1, Llundain
1af Ras bwyntiau – Rownd 4, Manceinion
1af Ras scratch – Rownd 4, Manceinion
1af Omnium – Rownd 5, Llundain
1af Ras bwyntiau – Rownd 2, Manceinion
3ydd Ras scratch – Rownd 2, Manceinion
1af Omnium, Fenioux Piste Rhyngwladol
2015
Pencampwriaethau Trac Ewrop 2015
1af Ras ymlid tîm
1af Ras scratch
1af Omnium
Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af Ras ymlid unigol
1af Ras scratch
1af Ras scratch
Chwyldro
1af Omnium – Rownd 1, Derby
1af Ras bwyntiau – Rownd 2, Manceinion
1af Ras bwyntiau – Rownd 4, Glasgow
1af Ras bwyntiau – Rownd 5, Llundain
1af Ras scratch – Rownd 4, Glasgow
1af Ras scratch – Rownd 5, Llundain
2il Ras scratch – Rownd 1, Derby
3ydd Ras ymlid tîm unigol – Round 1, Derby
3ydd Ras scratch – Rownd 6, Manceinion
Grand Prix Gwlad Pwyl
1af Omnium[18]
1af Ras scratch[19]
Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2015
2il Ras ymlid tîm
2il Omnium
2il Omnium, Cyfarfod Radsport Rhyngwladol
2016
Gemau Olympaidd yr Haf 2016
1af Ras ymlid tîm
1af Omnium
Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2016
1af Omnium
1af Ras scratch
3ydd Ras ymlid tîm
1af Pencampwriaethau Genedlaethol Prydeinig Madison
Chwyldro
1af Ras bwyntiau - Rownd 5, Manceinion
1af Ras bwyntiau - Rownd 6, Manceinion
1af Ras scratch - Rownd 6, Manceinion
2il Ras scratch - Rownd 5, Manceinion
1af Omnium, Grand Prix Gwlad Pwyl
1af Omnium, Fenioux Piste Rhyngwladol
Cynghrair y Pencampwyr Chwyldro
2il Omnium - Rownd 2, Llundain
2il Ras scratch - Rownd 2, Llundain
3ydd Ras bwyntiau - Rownd 2, Llundain
2018
Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af Omnium
2021
2il Ras ymlid tîm, Gemau Olympaidd yr Haf 2020
1af Madison merched, Gemau Olympaidd yr Haf 2020
Ffeithiau sydyn
Comin Wikimedia
Cau