llyn yn yr Eidal From Wikipedia, the free encyclopedia
Llyn yng ngogledd yr Eidal yw Llyn Como (Eidaleg: Lago di Como neu Lario). Gydag arwynebedd o 146 km², ef yw ail lyn yr Eidal o ran maint. Mae'n 410 medr o ddyfnder yn ei ran ddyfnaf, ac felly dyma'r llyn dyfnaf yr Eidal.
Saif y llyn ger Llyn Maggiore a Llyn Lugano, mewn ardal fynyddig, yn agos i'r ffin â'r Swistir, 198 medr uwch lefel y môr. Yr uchaf o'r mynyddoedd o'i gylch yw Monte Legnone (2609 m).
Yr afon fwyaf sy'n llifo i'r llyn yw afon Adda, sy'n dod i mewn iddo yn y gogledd, ger Colico ac yn llifo allan yn y de-ddwyrain ger Lecco.
Ceir ynys fechan, Isola Comacina, yn y llyn.
Y dref fwyaf ar lan y llyn yw Como. Ynhlith y trefi eraill y mae Cernobbio, Gravedona, Bellano, Varenna, Bellagio a Menaggio. Mae cymunedau Varenna, Lierna, Bellagio, Menaggio, Limonta a Tremezzo, sy'n cynnwys y pentrefi sydd â golygfa o benrhyn Bellagio, yn ffurfio’r ardal ddaearegol o Centro Lago, sy'n cael ei hystyried fel y rhan fwyaf dethol o Llyn Como.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.