From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Konk-Kerne (Ffrangeg: Concarneau) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Saint-Yvi, La Forêt-Fouesnant, Melgven, Trégunc ac mae ganddi boblogaeth o tua 20,607 (1 Ionawr 2021).
Math | cymuned |
---|---|
Prifddinas | Concarneau |
Poblogaeth | 20,607 |
Pennaeth llywodraeth | André Fidelin |
Gefeilldref/i | Bielefeld, Pennsans |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 41.08 km² |
Uwch y môr | 6 metr, 0 metr, 106 metr |
Yn ffinio gyda | Sant-Ivi, Ar Forest-Fouenant, Mêlwenn, Tregon |
Cyfesurynnau | 47.8753°N 3.9189°W |
Cod post | 29900 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Concarneau |
Pennaeth y Llywodraeth | André Fidelin |
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg. Mae gan y dref dwy adran benodol: y dref fodern ar y tir mawr a'r hen dref gaerog ganoloesol. Mae'r hen dref yn sefyll yng nghanol ynys oddi ar yr harbwr. Yn hanesyddol, bu'r hen dref yn ganolfan adeiladu llongau, ond bellach mae'n gartref i lawer o dai bwyta a siopau i ymwelwyr a thwristiaid.
Mae Konk-Kerne wedi'i gefeillio â:
Yn Awst bydd Konk-Kerne yn dathlu Gŵyl y Rhwydi Glas, sy'n cael ei enwi er clod y rhwyd las traddodiadol a arferid ei ddefnyddio gan fflyd bysgota'r ardal. Mae'r ŵyl yn ddathliad o ddiwylliant Llydewig a Pan-geltaidd. Gŵyl y Rhwydi Glas yw un o'r gwyliau hynaf a mwyaf o'r fath yn Llydaw gyda dros fil o gyfranogwyr mewn gwisg draddodiadol. Yn 2005, dathlwyd canmlwyddiant yr ŵyl.
Konk-Kerne oedd lleoliad y nofel Maigret a'r Cŵn Melyn (1931) gan yr awdur dirgelwch o Wlad Belg Georges Simenon
Mae nifer o arlunwyr amlwg wedi eu hysbrydoli gan Konk-Kerne a'r fro gan gynnwys Colin Campbell Cooper, Paul Signac, Michel Bouquet, Peder Severin Krøyer, William Lamb Picknell, Howard Russell Butler a llawer eraill
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.