Klagenfurt am Wörthersee, (Slofeneg: Celovec) yw prifddinas talaith Carinthia yn ne Awstria. Mae'r boblogaeth yn 90,100.
Math | dinas statudol yn Awstria, bwrdeistref yn Awstria, dinas fawr, district of Austria |
---|---|
Poblogaeth | 101,403 |
Pennaeth llywodraeth | Christian Scheider |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Carinthia |
Gwlad | Awstria |
Arwynebedd | 120.12 km² |
Uwch y môr | 446 metr |
Yn ffinio gyda | Krumpendorf am Wörther See, Maria Wörth, Keutschach am See, Köttmannsdorf, Maria Rain, Ebenthal in Kärnten, Poggersdorf, Magdalensberg, Maria Saal, Sankt Veit an der Glan, Liebenfels, Moosburg, Klagenfurt-Land District, Sankt Veit an der Glan District |
Cyfesurynnau | 46.62°N 14.3°E |
Cod post | 9020 |
Pennaeth y Llywodraeth | Christian Scheider |
Saif Klagenfurt 446 metr uwch lefel y môr, ychydig i'r dwyrain o lyn Wörthersee ar lan afon Glan. Ceir prifysgol ac eglwys gadeiriol yma, ac mae'n ganolfan esgobaeth Gurk-Klagenfurt.
Ceir y cyfeiriad cyntaf at Forum Chlagenvurth yn 1193 - 1199. Ail-sefydlwyd y dref yn 1246 gan y tywysog Bernhard van Spanheim, a daeth yn ddinas yn 1252.
Meddianwyd y dref a'r cyffiniau am gyfnod yn 1919 gan luoedd Slofenaidd Teyrnas Serbia, Croatia a Slofenia (SHS, Iwgoslafia wedyn) o dan y Cadfridog Slofenaidd, Rudolf Maister. Bu'n rhaid iddo gytuno i ildio'r dref a chytuno i refferendwm ar ei dyfodol (uneai fel rhan o Awstria neu fel rhan o' SHS newydd). Pleidleisiodd y trigolion dros ymuno ag Awstria.
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.