Kenneth H. Jackson
ieithydd (1909-1991) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysgolhaig o Sais oedd yn arbenigo yn yr ieithoedd Brythoneg oedd Kenneth Hurlstone Jackson (1 Tachwedd 1909 – 20 Chwefror 1991). Ei waith enwocaf yw Language and history in early Britain, sy'n trafod trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Kenneth H. Jackson | |
---|---|
Ganwyd | 1 Tachwedd 1909 Croydon |
Bu farw | 20 Chwefror 1991 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Derek Allen Prize, CBE, Cymrawd Cyfatebol Academi Ganoloesol America |
Cau
Ganed ef yn Beddington, Surrey, ac astudiodd yn Ysgol Ramadeg Croydon cyn ennill ysgoloriaeth i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt ym 1928. Astudiodd dan Hector a Nora Chadwick, a daeth yn rhugl mewn chwech iaith Geltaidd.
Dychwelodd i Gaergrawnt fel darlithydd mewn Celteg ym 1934, ac ym 1939 aeth i Harvard, lle daeth yn Athro Iaith a Llenyddiaeth Geltaidd. Ym 1950 daeth yn Athro Ieithoedd, Hanes a Hynafiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caeredin, a bu yno hyd ei ymddeoliad ym 1979.