Karl Jaspers
From Wikipedia, the free encyclopedia
Athronydd a seiciatrydd Almaenig oedd Karl Theodor Jaspers (23 Chwefror 1883 – 26 Chwefror 1969) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at seicopatholeg a'i athroniaeth a ystyrir yn ffurf ar ddirfodaeth, er na disgrifiai ei hun yn ddirfodwr. Cafodd ei syniadau ddylanwad ar seicoleg, diwinyddiaeth, ac athroniaeth yn yr 20g.
Karl Jaspers | |
---|---|
Karl Jaspers ym 1946. | |
Ganwyd | Karl Theodor Jaspers 23 Chwefror 1883 Oldenburg |
Bu farw | 26 Chwefror 1969 Basel |
Dinasyddiaeth | yr Almaen, Y Swistir |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, seiciatrydd, meddyg, diwinydd, academydd, ysgrifennwr, seicolegydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Oes yr Echelin |
Priod | Gertrud Jaspers |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Gwobr Goethe, Gwobr Erasmus, Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Pour le Mérite |
Ganed ef yn Oldenburg yng ngogledd-orllewin Ymerodraeth yr Almaen, ac astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Heidelberg yn bennaf cyn iddo gychwyn ar yrfa yn feddyg ac academydd. Gwasanaethodd yn feddyg milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, profiad a gafodd effaith bwysid ar ei feddwl. Wedi'r rhyfel, dychwelodd i Heidelberg i weithio'n seiciatrydd, a datblygodd ei ddull o ymdrin ag afiechyd meddwl trwy ddealltwriaeth empathig o brofiad y claf.
Canolbwyntia gweithiau cynnar Jaspers ar natur yr ymwybyddiaeth a'r cyfyngiadau ar wybodaeth ddynol. Yn ei gyfrol Psychologie der Weltanschauungen (1919), lluniai ei ddamcaniaeth o "sefyllfaoedd y terfyn", sef yr achlysuron mewn bywyd sydd yn gorfodi dyn i wynebu'r rhwystrau i'w ddealltwriaeth a phrofiad.
Diswyddwyd Jaspers o Brifysgol Heidelberg ym 1937 oherwydd ei wrthwynebiad i'r llywodraeth Natsïaidd, ac aeth yn alltud i'r Swistir. Yno fe barhaodd i ysgrifennu, ac i addysgu ym Mhrifysgol Basel. Dychwelodd i Heidelberg ym 1945, a chafodd ran wrth ailadeiladu byd deallusol a thraddodiad athronyddol yng Ngorllewin yr Almaen wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Canolbwyntia gweithiau diweddar Jaspers ar y berthynas rhwng athroniaeth a ffydd, ac archwiliodd y posibiliad o drosgynnu gwybodaeth a phrofiad cyfyngedig y ddynolryw drwy gyfriniaeth. Symudodd yn ôl i'r Swistir ar ddiwedd ei oes, a bu farw Karl Jaspers yn Basel yn 86 oed.