Prif Heddwas y Mossoss, hyd at 2017 pan diswyddwyd ef gan Lywodraeth Sbaen. From Wikipedia, the free encyclopedia
Pennaeth heddlu Catalwnia, neu'r Mossos d'Esquadra oedd Josep Lluís Trapero Álvarez (ganwyd Badalona, 1965) a ddiswyddwyd gan Lywodraeth Sbaen wedi iddyn nhw alw Erthygl 155 yn eu hymdrech i reoli Llywodraeth Catalwnia. Diswyddwyd ef ar 28 Hydref 2017 wedi 26 mlynedd gyda'r Mossos.[1] Yn 2013 fe'i gwnaed yn Gomisiynydd yr Heddlu ac yn Brif Heddwas yn 2017, gan ddilyn Joan Unió.[2][3]
Oherwydd ei safiad, ni chymerodd y Mossos unrhyw ran yn ymgyrch Heddl Sbaen i atal Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017.
Yn ystod Ymosodiad Barcelona, Awst 2017 gweithredodd fel y prif ymchwilydd y Mossos, a derbyniodd ganmoliaeth uchel o bob cyfeiriad.
Ar 4 Hydref 2017, yn dilyn Refferendwm 2017, cyhuddwyd Trapero gan erlynwyr Sbaen o Sedición, sef 'annog gwrthryfel'.[4] honir iddo wrth a gweithredu gorchmynion Llywodraeth Sbaen gan fod y Mossos yn atebol ac yn gyflogedig gan Lywodraeth Catalwnia. Gall y cyhuddiad hwn ddwyn cosb o hyd at 15 mlynedd o garchar. Anogodd ei heddweision "i fod yn hynod o oddefol ac ymatal rhag unrhyw fath o drais".[5]
Ar 16 Hydref 2017 mynnodd erlynwyr Sbaen fod Trapero'n cael ei garcharu heb achos llys.[6] Ymatebodd barnwr o Ffrainc i hyn drwy ei ganiatau iddo fod yn rhydd, ar yr amod ei fod yn ymweld a'r llys pob pythefnos, gyda'i basport.
Ar 28 Hydref penodwyd Ferran López yn brif heddwas y Mossos; gwnaed y penodiad gan Weinidog Llywodraeth Sbaen, Juan Ignacio Zoido.[7][8][9]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.