cadeirydd Cymdeithas yr Iaith From Wikipedia, the free encyclopedia
Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ers 2023 yw Joseff Gnagbo (ganed tua 1974) o Gaerdydd.[1] Sillefir ei enw hefyd fel "Joseph".
Joseff Gnagbo | |
---|---|
Joseff (ar y chwith) yn siarad yn un o ddigwyddiadau Melin Drafod | |
Ganwyd | c. 1974 |
Dinasyddiaeth | Cymru Arfordir Ifori |
Daeth Gnagbo i Gymru o'r Traeth Ifori yn 2017 fel ceisiwr lloches, yng nghanol chwyldro milwrol. Dysgodd Gymraeg yn gyflym a daeth yn diwtor Cymraeg. Daeth yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ym mis Hydref 2023.[1] Ef yw'r person cyntaf na chafodd ei eni yng Nghymru i gadeirio'r Gymdeithas.[2]
Gadawodd yr Arfidir Ifori yn 2011 lle roedd yn newyddiadurwr ac athro ieithoedd. Bu hefyd yn actifydd gwleidyddol ac yn ystod y gwrthdaro a ddechreuodd yn y wlad yn 2002 rhwng cefnogwyr yr Arlywydd, Laurent Gbagbo, a'i wrthwynebydd, Alassane Ouattara. Rhan o'r anghydfod oedd nad oedd Laurent Gbagbo am ildio rheolaeth ariannol y wlad i'r bloc oedd yn gefnogol i fod o dan ymbarél ariannol Ffrainc, y Communauté Financière Africaine. O dan y reolaeth yma mae tua 60% o arian y wlad o dan reolaeth Ffrainc a rhaid i'r Arfordir Ifori dalu llog. Wedi i'r gwrthryfelwyr ennill y rhyfel cartref roedd yn rhaid iddo ffoi yn 2011.[3]
Roedd yn gallu siarad nifer o ieithoedd arall - Ffrangeg, Almaeneg, Rwsieg, Saesneg, Swahili - cyn iddo gyrraedd Cymru, felly nid oedd dysgu Cymraeg yn anodd iddo. Ond mewn cyfweliad gyda phodlediad Radio YesCymru nododd nad oedd yn gallu siarad unrhyw un o ieithoedd brodorol yr Arfordir Ifori gan na ddysgwyd yr un ohonynt iddo gan ei rieni, a bod dylanwad y Ffrangeg mor gryf. Roedd ei dad yn siarad yr iaith Dida.[3] Roedd yn meddwl bod dysgu ieithoedd brodorol yn bwysig.[1] Mewn cyfweliad, dywedodd: "Rwy'n hoff iawn o sain y Gymraeg - ac un o fy hoff eiriau yw 'gwdihŵ'!" Un o'r rhesymau iddo ddysgu Cymraeg oedd oherwydd iddo weld tebygrwydd yn y sefyllfa gyda grym ieithoedd yn ei famwlad.[3]
Mae ganddo ddau o blant sy'n mynd i ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd.[1]
Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024 cafodd ei urddo i wisg las Gorsedd y Beirdd.[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.