gwleidydd, undebwr llafur (1938- ) From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd Prydeinig ac aelod o'r Blaid Lafur yw John Leslie Prescott (ganwyd 31 Mai 1938). Mae'n Aelod Seneddol ar gyfer Hull East ac yn gyn Ddirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig a Phrif Ysgrifennydd Gwladol y Deyrnas Unedig. Etholwyd ef yn Ddirprwy Arweinydd y Blaid Lafur ar ôl dod yn ail yn etholiad arweinydd y blaid ym 1994, a chafodd swydd fel Dirprwy Brif Weinidog ar ôl buddugoliaeth Llafur yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1997.
John Prescott | |
---|---|
Llais | Lord Prescott BBC Radio4 Desert Island Discs 19 Feb 2012 b01c6trm.flac |
Ganwyd | 31 Mai 1938 Prestatyn |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, undebwr llafur, cynorthwyydd stiward |
Swydd | Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Prif Ysgrifenyddion Gwladol, Aelod Senedd Ewrop, Secretary of State for the Environment, Transport and the Regions, Deputy Leader of the Labour Party, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Waith a Phensiynau, Shadow Secretary of State for Transport, Shadow Secretary of State for Energy and Climate Change, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Shadow Secretary of State for Transport, Shadow Secretary of State for Employment, Shadow Secretary of State for Employment |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Chwaraeon |
Cafodd ei eni ym Mhrestatyn, ac yn ei amserbu'n gyn-stiward ar long ac yn actifydd undeb llafur. Cyflwynwyd ef gan "Lafur Newydd" fel dolen rhwng y dosbarth gweithiol a gwleidyddiaeth, mewn plaid a oedd yn cael ei redeg gan bobl broffesiynol, dosbarth canol. Fe fethodd basio'i arholiad eleven plus er mwyn mynd i ysgol ramadeg, ond fe aeth ymlaen i raddio yng Ngholeg Ruskin yn Rhydychen. Cafodd Prescott enw da fel cymodwr allweddol yn y berthynas rhwng y ddau brif gymeriad yn y llywodraeth ar y pryd, sef y canghellor Gordon Brown a'r Prif Weinidog Tony Blair.
Ar 27 Mehefin 2007, ymddeolodd o'i swydd fel Dirprwy Brif Weinidog, gan gyd-daro gydag ymddiswyddiad y Prif Weinidog, Tony Blair. Yn dilyn ethoiad o fewn y blaid Lafur, fe gymerodd Harriet Harman ei swydd fel y Prif Ysgrifennydd Gwladol, ond ni apwyntwyd Dirprwy Brif Weinidog yn ei le. Ar 27 Awst 2007, datganodd na fyddai'n sefyll i gael ei ail-ethol fel AS yn yr etholiad nesaf.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.