gwleidydd, swyddog milwrol, diplomydd, cricedwr (1718-1792) From Wikipedia, the free encyclopedia
Olynodd John Montagu, 4ydd Iarll Sandwich, PC, FRS (3 Tachwedd 1718 – 30 Ebrill 1792)[1] ei daid, y 3ydd Iarll i Iarllaeth Sandwich, yn 1729, pan oedd ond yn ddeg oed. Daliodd amryw o swyddi milwrol a gwleidyddol yn ystod ei oes, ond mae fwyaf enwog oherwydd i bobl honni mai ef ddyfeisiodd y frechdan, Sandwich yn Saesneg.
John Montagu, 4ydd Iarll Sandwich | |
---|---|
Ganwyd | 13 Tachwedd 1718 |
Bu farw | 30 Ebrill 1792 Chiswick |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diplomydd, swyddog milwrol, cricedwr, gwleidydd |
Swydd | Ysgrifennydd Gwladol Adran y Gogledd, Board of Admiralty, Postfeistr Cyffredinol y Deyrnas Unedig, llysgennad, Prif Arglwydd y Morlys, Prif Arglwydd y Morlys, Prif Arglwydd y Morlys, ambassador of the Kingdom of Great Britain in the Kingdom of Spain |
Tad | Edward Montagu |
Mam | Elizabeth Popham |
Priod | Dorothy Montagu, Martha Ray |
Partner | Fanny Murray |
Plant | Basil Montagu, John Montagu, William Augustus Montagu, Augusta Montagu, Robert Montagu, Mary Montagu, Edward Montagu |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Chwaraeon |
Addysgwyd yn Eton a Choleg y Drindod, Caergrawnt, treuliodd Montagu cryn dipyn o amser yn teithio, a phan ddychwelodd i Loegr ym 1739 cymerodd ei sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi fel un o gefnogwyr Dug Bedford. Apwyntiwyd ef yn un o Gomisiynwyr y Forlys o dan arweinyddiaeth Bedford, ac yn Chyrnol yn y Fyddin.
Anfonwyd ef i weinyddu fel plenipotensiwr yn y gyngres yn Breda yn 1746, a fe gariodd ymlaen i gymryd rhan yn nhrafodaethau heddwch Cytundeb Aix-la-Chapelle, a ddaeth i ban ym 1748. Yn Chwefror 1748, daeth e'n Arglwydd Cyntaf y Forlys, a ddailiodd y swydd hyd Mehefin 1751. Yn Awst 1753, daeth Sandwich yn un o brif Ysgrifenyddion Gwladol, a cymerodd ran arweiniol yn erledigaeth John Wilkes am enllib aflan, er ei fod wedi ymwneud â Wileken yn yr Hellfire Club ddrwg-enwog. Perfformiwyd The Beggar's Opera gan John Gay yn Covent Garden yn fuan wedyn, fe ymglymwyd Sandwich i gymeriad Jemmy Twitcher, bradwr Macheath yn y ddrama, fyth wedyn oherwydd ymddygiad Sandwich.
Daeth yr Arglwydd Sandwich yn Bostfeistr Cyffredin yn 1768, ac yn Ysgrifennydd Gwladol yn 1770, ac eto yn Arglwydd Cyntaf y Forlys o dan weinyddiaeth Arglwydd North o 1771 hyd Mawrth 1782. Er iddo ddal sawl swydd pwysig, roedd Sandwich yn analluog ac yn llwgr.
Dywed y tanseilwyd yr ymdrechion morol yn y Rhyfel Cylchdroadol Americanaidd gan anallu Sandwich yn y Forlys.[2]
Priododd Sandwich Dorothy Fane, merch Isiarll 1af Fane, a chawsant fab, John, Isiarll Hinchingbrooke (1743–1814), a olynodd ei dad fel y 5ed Iarll. Trasiedi personol cyntaf Sandwich oedd dirywiad yn iechyd ei wraig, yn y diwedd, aeth hi'n wallgof. Fe gafodd Sandwich 16 mlynedd o hapusrwydd yn ddiweddarach gyda'r cantores opera Martha Ray, a chawsant tua naw o blant, roedd Basil Montagu (1770–1851), llenor, arbenigwr cyfreithiol a dyngarwr, yn un ohonynt.[3] Bu trasiedi arall yn Ebrill 1779 pan llofruddiwyd Ray yng nghyntedd y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden gan gwynwr cenfigennus, James Hackman, Rheithor Wiveton. Ni ddaeth Sandwich fyth dros ei alar.
Mae'n bosib y gymerwyd y gair Saesneg am frechdan, sandwich, ar ôl Arglwydd Sandwich, ond ni ddyfeisiwyd y frechdan ganddo.[4] Mae amgylchiadau dyfeisio'r frechdan yn dal i gael eu dadlau hyd heddiw. Fe argraffwyd achlust yn llawlyfr teithio Tour to London gan Pierre Jean Grosley, gan ffurfio'r chwedl boblogaidd mai bara a chig a gynhaliodd yr Arglwydd Sandwich wrth y bwrdd gamblo[5]. Ond mae bywgraffwr Sandwich, N.A.M. Rodger, yn cynnig y syniad y bu'n mwy tebygol iddo fwyta ei frechdan cyntaf wrth ei ddesg oherwydd ei ymrwymiadau i'r forlu, gwleidyddiaeth a'r celfyddydau.
Mae'n bosib mai brawd yng nghyfraith Sandwich, Jerome de Salis a anwyd yn Gweriniaeth Grisons, a ddygodd ef am frechdanau.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.