pregethwr Piwritanaidd, a phrif arweinydd y Bedyddwyr Neilltuol From Wikipedia, the free encyclopedia
Arweinydd crefyddol a chefnogwr Piwritaniaeth oedd John Miles neu John Myles (1621 - 1683). Cafodd ei eni yn Clifford, Swydd Henffordd, mewn ardal a oedd yr adeg honno yn bur Gymraeg o hyd er ei bod yn gorwedd dros y ffin yn Lloegr.
John Miles | |
---|---|
Ganwyd | 1621 Cymru, Clifford, Swydd Henffordd |
Bu farw | 3 Chwefror 1683 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Daeth Miles yn arweinydd pwysig gyda'r Bedyddwyr cynnar a adnabyddir fel Bedyddwyr Caeth neu Neilltuol. Cafodd ei addysg brifysgol yn Mhrifysgol Rhydychen. Roedd ganddo gysylltiadau clos â Chymru, er nad oes prawf ei fod yn medru'r Gymraeg. Bu'n un o'r cynorthwywyr a anfonwyd i Gymru ar ôl pasio Deddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru (1650), ynghyd â Morgan Llwyd, Vavasor Powell ac eraill.
Nid oedd Miles yn cymeradwyo'r ymenwadu a noddweddai cyfnod Gwerinlywodraeth Lloegr a chadwai allan o ddadleuon gwleidyddol y dydd. Serch hynny, cafodd ei droi allan o'i weinidogaeth ar ôl yr Adferiad dan Siarl II o Loegr, a threuliodd ei ddyddiau olaf yn alltud ym Massachusetts lle sefydlodd eglwys yn 1667 a'i galw yn Swanzey ('Swansea').
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.