Llenor ac athronydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Athronydd ac awdur yn yr iaith Ffrangeg oedd Jean-Jacques Rousseau (28 Mehefin 1712 - 2 Gorffennaf 1778).
Jean-Jacques Rousseau | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mehefin 1712 Genefa |
Bu farw | 2 Gorffennaf 1778 o ataliad y galon Ermenonville |
Man preswyl | Torino, Swydd Stafford |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Genefa, Ffrainc |
Galwedigaeth | athronydd, botanegydd, cyfansoddwr, coreograffydd, ysgrifennwr, cerddolegydd, llenor, nofelydd, hunangofiannydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, addysgwr, naturiaethydd, dramodydd, gwyddoniadurwr, gohebydd, gwyddonydd gwleidyddol, awdur ysgrifau, beirniad cerdd |
Adnabyddus am | Emile, The Social Contract, Julie, ou la Nouvelle Héloïse, Confessions |
Mudiad | social contract, cerddoriaeth faróc |
Tad | Isaac Rousseau |
Priod | Thérèse Levasseur |
Partner | Françoise-Louise de Warens |
llofnod | |
Cafodd ei eni yn Geneva i rieni Ffrengig. Daeth yn ffrind i Denis Diderot ac ymunodd â'r Gwyddoniadwyr. Credai fod natur y bod dynol yn berffaith ynddi ei hun ond ei bod wedi'i llygru gan gymdeithas amherffaith; amlygir hyn yn bennaf yn ei nofel ar addysg, Émile (1762). Cafodd syniadau gwleidyddol Rousseau ddylanwad sylweddol ar ei gyfoeswyr yn Ffrainc a gweddill Ewrop ac, yn ddiweddarach, ar arweinwyr a damcaniaethwyr y Chwyldro Ffrengig (er na chredai J.-J. ei hun mewn chwyldro). Fel llenor cafodd ei arddull cain a syniadaeth Ramantaidd ddylanwad ar lenorion fel Goethe, Shelley, Byron a Wordsworth. Ceir ei ysgrifeniadau mwyaf personol yn Les Confessions a Rêveries du promeneur solitaire, a gyhoedwyd ar ôl ei farwolaeth. Mewn cyferbyniad â Voltaire ac eraill o'r Rhesymegwyr, roedd Rousseau yn Gristion rhyddfrydol a gredai fod Natur yn allwedd i ddeall y Duwdod. Mae haneswyr yn cytuno i waith Rousseau achosi chwyldro mewn agweddau tuag at y naturiol a'r cyntefig drwy Ewrop; efallai mai ei nofel Julie ou la Nouvelle Héloïse a fu'n bennaf gyfrifol am hyn. Ym 1766, ac yntau wedi cilio i Lundain yng nghwmni'r athrnoydd o'r Alban David Hume, roedd Rousseau yn awyddus i ymgartrefu yng Nghymru. Cynigodd yr Aedol Seneddol Chase Price lety iddo yng Nghymru, ond fe'i perswadiwyd gan David Hume i fynd i Swydd Stafford yn lle. Trafodir hyn mewn erthygl gan Heather Williams, 'Cymru trwy lygaid Rousseau (ac eraill)', Y Traethodydd Hydref 2013.
Yr argraffiad safonol o holl waith Rousseau yn Ffrangeg yw'r Œuvres complètes, 5 cyfrol, Paris, Gallimard, Bibliothèque de la Pléiade (1959-95).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.