Jade Ewen
actores a aned yn 1988 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Jade Almarie Louise Ewen (ganed 24 Ionawr 1988 yn Llundain) yn gantores ac actores Seisnig. Dechreuodd Ewen ei gyrfa gyda rôl Nala yn y sioe gerdd The Lion King yn West End Llundain. Ers hynny, mae Ewen wedi gweithio ar nifer o gyfresi teledu yn y DU ac Awstralia. Yn 2005 ymunodd Ewen â'r grŵp R&B, "Trinity Stone" a gafodd ychydig o lwyddiant yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon a Rwsia. Ar y 31ain o Ionawr, 2009, dewiswyd Ewen i ganu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision a pherfformiodd yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2009 ym Moscow ar yr 16eg o Fai. Daeth y Deyrnas Unedig yn bumed, a thrwy wneud hynny, Ewen sydd wedi gwneud orau ar ran y DU yn yr Eurovision ers 2002. Yn 2009, disodlodd Ewen Keisha Buchanan yn y grŵp Sugababes.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Label recordio ...
Jade Ewen | |
---|---|
Ganwyd | 24 Ionawr 1988 Llundain |
Label recordio | Polydor Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr-gyfansoddwr, canwr, actor ffilm |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, rhythm a blŵs |
Partner | Ricky Norwood |
Cau