![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d9/J%25C3%25B8rgen_Moe_%2528Frederik_Klem%2529.jpg/640px-J%25C3%25B8rgen_Moe_%2528Frederik_Klem%2529.jpg&w=640&q=50)
Jørgen Engebretsen Moe
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Jørgen Engebretsen Moe (22 Ebrill 1813 – 27 Mawrth 1882) yn arbenigwr llên gwerin a bardd o Norwy. Mae'n ffigwr pwysig yn hanes adfywiad llenyddol a chenedlaethol Norwy yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'n esgob Christiansand o 1875 hyd 1881.
Jørgen Engebretsen Moe | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 22 Ebrill 1813 ![]() Hole ![]() |
Bu farw | 27 Mawrth 1882 ![]() Kristiansand ![]() |
Dinasyddiaeth | Norwy ![]() |
Galwedigaeth | bardd, offeiriad, ysgrifennwr, arbenigwr mewn llên gwerin, awdur plant, diwinydd, casglwr straeon, rhyddieithwr ![]() |
Swydd | Q115862466 ![]() |
Tad | Engebret Olsen Moe ![]() |
Plant | Moltke Moe, Ole Falk Moe, Védastine Aubert ![]() |
Gwobr/au | Cadlywydd Urdd Sant Olaf ![]() |
llofnod | |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/96/Norske_folke_og_huldre-eventyr.jpg/640px-Norske_folke_og_huldre-eventyr.jpg)
Ganwyd Moe ar fferm yn Hole, Ringerike. Roedd yn blentyn darllengar a hoffia fyd natur. Gyda'r nos byddai'n gwrando hen chwedlau ar aelwyd y teulu neu yn y ffermydd cyfagos, a hynny ar adeg pan oedd y chwedlau'n fyw ar gof gan yr hen genhedlaeth o hyd.
Gyda Peter Christian Asbjørnsen, ei hen ffrind ysgol, casglodd a golygodd gasgliad pwysig a hynod ddylanwadol o chwedlau llên gwerin traddodiadol (eventyr) Norwyeg (1841-1844), y Norske folke og huldre-eventyr.
Cyhoeddodd yn ogystal gyfrol o gerddi rhamantaidd yn 1850, ynghyd â chlasur o gyfrol i blant, I brønden og i kjœrnet (1851).
Roedd mab Jørgen Moe, Moltke, yn arbenigwr llên gwerin o fri, athro llên gwerin cyntaf Priyfysgol Christiana.