![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/17/Yale_template.svg/langcy-640px-Yale_template.svg.png&w=640&q=50)
Iâl (bwystfil chwedlonol)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Bwystfil chwedlonol yw iâl (Lladin: eale) sy'n ymddangos ym mytholeg Ewropeaidd a herodraeth. Mae'n cael ei disgrifio gan Plinius yr Hynaf yn ei Naturalis Historia (VIII: 21). Mae Plinius yn ysgrifennu bod yr iâl cymaint ag afonfarch, gyda chynffon eliffant, ei lliw yn ddu neu yn gochlyd; mae ei genau yn debyg i'r genau baedd; mae ganddi gyrn yn fwy na chufydd o hyd ac mae'n gallu symud y cyrn hyn ym mhob cyfeiriad yn ôl ei dewis.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | creadur chwedlonol ![]() |
---|---|
![]() |
Cau
Defnyddir yr iâl fel symbol horodrol y gynrychioli amddiffyniad balch. Ymddangosir ialod fel cynheiliaid yn arfbais Tŷ Beaufort. Roedd Arglwyddes Margaret Beaufort yn gymwynaswr i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt, a Choleg Crist, Caergrawnt, felly gellir gweld ialod uwchben pyrth y colegau hynny.
- Arfbais uwchben Prif Borth Coleg Sant Ioan, Caergrawnt
- Arfbais uwchben Prif Borth Coleg Crist, Caergrawnt