From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynhaliwyd Is-etholiad Caerfyrddin 1966 yng Nghaerfyrddin ar 14 Gorffennaf 1966.
Enghraifft o'r canlynol | is-etholiad Seneddol y Deyrnas Unedig |
---|---|
Dyddiad | 14 Gorffennaf 1966 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Roedd Megan Lloyd George wedi bod yn aelod seneddol dros Etholaeth Caerfyrddin ers 1957 a hi enillodd y sedd ar 31 Mawrth 1966. Fodd bynnag, ni chymerodd unrhyw ran yn yr etholiad hwnnw am ei bod yn dioddef o'r cancr a bu farw ar yr 14 Mai 1966.
Doedd dim yng nghanlyniadau yr Etholiad cyffredinol yn awgrymu beth oedd i ddod. Enillodd y Blaid Lafur 32 o'r 36 sedd yng Nghymru.
Erbyn diwedd Ebrill sylweddolwyd pa mor sâl oedd Megan Lloyd George ac aeth Plaid Cymru ati yn drefnus ac yn sensitif i baratoi at is-etholiad. Dan gyfarwyddyd Cyril Jones (Cynrychiolydd) ac Islwyn Ffowc Elis (Swyddog y Wasg) aethpwyd ati i lunio cynlluniau manwl ar gyfer yr is-etholiad.
Yn yr is-etholiad hwn llwyddodd Plaid Cymru i ennill ei sedd seneddol gyntaf erioed. Gellir dadlau i'r fuddugoliaeth yma gael dylanwad ar y pleidleisio yn yr Alban flwyddyn yn ddiweddarach pan etholwyd Winnie Ewing yn Is-etholiad Hamilton ar ran Plaid Genedlaethol yr Alban.
Is-etholiad Caerfyrddin, 1966 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Plaid Cymru | Gwynfor Evans | 16,179 | 39.0 | +22 (approx.) | |
Llafur | Gwilym Prys Davies | 13,743 | 33.1 | -12 (approx.) | |
Rhyddfrydol | Hywel Davies | 8,615 | 20.8 | -5 (approx.) | |
Ceidwadwyr | Simon Day | 2,934 | 7.1 | -4.5 | |
Mwyafrif | 2,436 | 5.87 | |||
Y nifer a bleidleisiodd | 41,506 | ||||
Plaid Cymru yn disodli Llafur | Gogwydd | 12 |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.