![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/ad/Iron_electrolytic_and_1cm3_cube.jpg/640px-Iron_electrolytic_and_1cm3_cube.jpg&w=640&q=50)
Haearn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Metel o liw llwyd yw haearn, sy'n elfen gemegol yn y tabl cyfnodol ac iddo'r symbol Fe
(o'r Lladin ferrum 'haearn') a'r rhif 26. Elfen chweched gyffredinaf y bydysawd ydyw, sy'n bodoli mewn pedwar isotop sefydlog: 54Fe (5.845%), 56Fe (91.754%), 57Fe (2.119%), a 58Fe (0.282%).
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | elfen gemegol, metel ![]() |
---|---|
Math | meddyginiaeth, elfen frodorol ar ffurf mwyn, primary metabolite ![]() |
Màs | 55.845 ±0.002 uned Dalton ![]() |
Fformiwla gemegol | Fe ![]() |
Clefydau i'w trin | Iron deficiency anemia, hypochromic anemia ![]() |
Dyddiad darganfod | c. Mileniwm 5. CC ![]() |
Symbol | Fe ![]() |
Rhif atomig | 26 ![]() |
Trefn yr electronnau | [Ar] 3d⁶ 4s² ![]() |
Electronegatifedd | 1.83 ![]() |
Cyflwr ocsidiad | 1.83 ![]() |
Rhan o | elfen cyfnod 4, Elfen Grŵp 8 ![]() |
![]() |
Metel ydyw, ond anaml y'i ceir mewn ffurf fetelig ar wyneb y ddaear, gan ei fod yn ocsideiddio ym mhresenoldeb ocsigen a gwlybwr. Defnyddir y mwyn hematit (Fe2O3) yn amlaf i gynhyrchu haearn. Gall priodweddau haearn eu newid gan greu aloion ohono gydag amryw o fetelau eraill (a rhai an-fetelau, yn enwedig carbon a silicon) i ffurfio duroedd.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1c/Shop_Haiarn_Llanon_1848.jpg/320px-Shop_Haiarn_Llanon_1848.jpg)
Mae haearn yn rhan anhepgor o ddeiet achos y'i ddefnyddir i ffurfio hemoglobin yn y gwaed. Serch hynny, gall gormodedd o haearn fod yn wenwynig ac mae'n un o'r achosion tocsicolegol cyffredinaf o farwolaeth plant dan 6 oed.