apostol yng Nghristnogaeth From Wikipedia, the free encyclopedia
Yn y Testament Newydd mae Ioan neu Ioan Efenglydd neu Sant Ioan (fl. Ganrif 1af) yn un o ddeuddeg Apostol Crist ac un o'r pedwar efengylydd gyda Mathew, Marc a Luc. Roedd yn fab i Sebedeus a Salome, ac yn frawd i Iago. Dywedir ei fod ef a'r frawd yn bysgotwyr ar lan Môr Galilea pan alwyd hwy gan Iesu fel disgyblion.
Ioan | |
---|---|
Miniatur o Ioan yn llyfr oriau Anna, Duges Llydaw (1503–8) gan Jean Bourdichon | |
Ganwyd | 11 Bethsaida |
Bu farw | c. 99 Effesus |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | pysgotwr, diwinydd, cyfrinydd, awdur |
Swydd | Apostol |
Dydd gŵyl | 27 Rhagfyr, 26 Rhagfyr |
Tad | Sebedeus |
Mam | Salome |
Yn ôl traddodiad bu farw yn Effesus yn Asia Leiaf. Ffurf arall ar ei enw yw Ieuan. Fe'i gelwir weithiau Sant Ioan o Batmos hefyd.
Credir mai Ioan yw awdur yr Efengyl yn ôl Ioan, un o'r pedwar efengyl synoptig a ysgrifennwyd tua diwedd y ganrif gyntaf. Tadogir arno dri Llythyr yn y Testament Newydd yn ogystal. Yn ôl traddodiad Ioan oedd awdur Datguddiad Ioan sy'n disgrifio Arwyddion Dydd y Farn; credir iddo gael ei gyfansoddi ar ynys Patmos.
|
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.