Interlingua
From Wikipedia, the free encyclopedia
Iaith ryngwladol sy'n defnyddio geiriau mwyaf cyffredin Lladin, Eidaleg, Sbaeneg, Portiwgaleg, Ffrangeg a Saesneg yw Interlingua. Y canlyniad yw Lladin modern syml.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Crëwr ...
![]() | |
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | Iaith artiffisial, iaith gynorthwyol ryngwladol ![]() |
---|---|
Crëwr | International Auxiliary Language Association, Alexander Gode ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1951 ![]() |
Enw brodorol | Interlingua ![]() |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | ia ![]() |
cod ISO 639-2 | ina ![]() |
cod ISO 639-3 | ina ![]() |
System ysgrifennu | Interlingua alphabet, yr wyddor Ladin ![]() |
Corff rheoleiddio | International Auxiliary Language Association ![]() |
Gwefan | http://www.interlingua.com/ ![]() |
![]() |
Cau
- Peidiwch â chymysgu yr iaith hon ag Interlingue, sy'n iaith artiffisial wahanol.
Y gwahaniaeth rhwng Interlingua ac Esperanto yw bod geiriau Esperanto wedi eu creu yn ôl rheolau'r iaith a dim ond y rhai sydd wedi dysgu'r iaith sy'n ei deall. Dydy geiriau Interlingua ddim wedi eu creu. Roedden nhw'n bodoli'n barod. Y canlyniad yw bod unrhyw un sy'n medru dwy iaith Ewropeaidd yn deall 80% neu 90% o Interlingua yn barod, heb ddysgu dim ohoni. Fe fydd yr Eidalwyr, y Sbaenwyr a'r Portiwgalwyr yn deall Interlingua heb ddim trafferth. Iddyn nhw fe fydd yn swnio fel tafodiaith o'u hiaith eu hunain.