Langue d'oïl
From Wikipedia, the free encyclopedia
Yn hanesyddol, defyddir y termau langue d'oïl, langues d'oïl, ac oïl (ynganiad: [ɔ.il], [u.il], [wi], [ɔj]1), ar gyfer yr iaith Romáwns a ddatblygodd yn rhan ogleddol Gâl, ac yna rhan ogleddol Ffrainc, de Gwlad Belg ac ar yr Ynysoedd y Sianel yn yr oesoedd canol. Mae felly'n gysyniad tebyg, ond nid union yr un peth, â'r Hen Ffrangeg, oedd yn cwmpasu'r gwahanol dafodieithoedd oïl. Gydag ymddangosiad un ffurf ieithyddol wedi'i safoni ar ddechrau'r cyfnod modern (sef y Ffrangeg), daeth y term lluosog yn amherthnasol wrth sôn am Ffrangeg ganol, a gwahaniaethwyd rhang y Ffrangeg ar y naill law a'r ieithoedd oïl eraill ar y llall. Ystyrir y tafodieithoedd, neu ieithoedd, oïl, yn grŵp o fewn yr ieithoedd Gallo-Romáwns. Mae'r grŵp gogleddol hwn yn cynnwys swbstrad celtaidd sylweddol, yn ogystal â dylanwad gan yr ieithoedd Germanaidd sy'n un o'r gwahaniaethoedd rhwng y langues d'oïl a'r Ocsitaneg.
Langues d'oïl | |
---|---|
Dosraniad daearyddol: |
Gogledd a chanolbarth Ffrainc, De Gwlad Belg a rhan fach o'r Swistir |
Dosraniad Ieithyddol: | Indo-Ewropeaidd Langues d'oïl |
Israniadau: |
gweler isod
|
Map sy'n dangos dosraniad y (tafod)ieithoedd Oïl heblaw'r Ffrangeg. |