From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae ibwproffen yn feddyginiaeth yn y dosbarth cyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd (NSAID) a ddefnyddir i drin poen, twymyn a llid.[1] Mae hyn yn cynnwys cyfnodau misglwyf poenus, y meigryn, y ddannoedd, a'r gwynegon. Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₃H₁₈O₂. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i gau patent ductus arteriosus mewn babanod cynamserol. Gellir ei ddefnyddio trwy'r geg, yn fewnwythiennol ac fel jel argroenol. Fel arfer mae'n dechrau gweithio o fewn awr[2].
Ibuprofen generic o Archfarchnad Tesco | |
Delwedd:Ibuprofen2.svg, Ibuprofen.svg | |
Enghraifft o'r canlynol | par o enantiomerau |
---|---|
Math | aromatic compound, asid carbocsylig |
Màs | 206.131 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₁₃h₁₈o₂ |
Enw WHO | Ibuprofen |
Clefydau i'w trin | Poen, gorwres, osteoarthritis, crydcymalau gwynegol ieuengaidd, gout attack, sbondylitis asiol, llid, crydcymalau gwynegol, enthesopathy, bwrsitis, tyndra'r mislif, osteoarthritis susceptibility 1, tonsilitis, cur pen eithafol, fibromyalgia, llid y sinysau, gowt, nasopharyngitis, gwynegon, gastroenteritis, dolur gwddw, sleep-wake disorder, nephrogenic diabetes insipidus |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys llosg cylla a brechod. O'i gymharu â NSAIDau eraill, gallai fod llai o sgil effeithiau megis gwaedu gastro-berfeddol. Mae'n cynyddu'r risg o fethiant y galon, methiant yr arennau, a methiant yr iau. Mewn dosau isel, nid yw'n ymddangos ei fod yn cynyddu'r perygl o gael trawiad ar y galon; fodd bynnag, o gymryd dosau uwch efallai y bydd. Gall Ibuprofen hefyd arwain at waethygu asthma. Er nad yw'n glir os yw'n ddiogel yn ystod beichiogrwydd cynnar, ymddengys ei fod yn niweidiol mewn beichiogrwydd yn ddiweddarach ac felly nid yw'n cael ei argymell. Fel NSAIDau eraill, mae'n gweithio drwy atal cynhyrchu prostaglandinau trwy ostwng gweithgaredd yr ensym cyclooxygenase. Mae Ibuprofen yn gyffur gwrthlidiol gwannach na NSAIDau eraill.
Darganfuwyd Ibuprofen ym 1961 gan Stewart Adams (1923−2019)) o gwmni Boots, a oedd yn chwilio am foddion ar gyfer ei ben mawr. Cafodd ei farchnata i ddechrau fel Brufen. Mae ar gael o dan nifer o enwau masnachol, gan gynnwys Advil and Motrin. Cafodd ei farchnata gyntaf yn y Deyrnas Unedig ym 1969 ac yn yr Unol Daleithiau ym 1974. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd[3], y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Mae ar gael fel meddyginiaeth generig. Mae'n feddyginiaeth gellir ei brynu dros y cownter mewn siopau ac archfarchnadoedd heb yr angen am bresgripsiwn na phresenoldeb fferyllydd.
Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hwn yw Ibwproffen, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.