Hugan
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Hugan (Morus bassanus) (hefyd Mulfran wen neu Gwylanwydd) yn aderyn cyffredin sy'n aelod o deulu'r Sulidae ac yn adnabyddus o gwmpas glannau Môr Iwerydd, lle gellir ei weld yn pysgota yn arbennig yn yr haf.
Hugan | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Pelecaniformes |
Teulu: | Sulidae |
Genws: | Morus |
Rhywogaeth: | M. bassanus |
Enw deuenwol | |
Morus bassanus (Linnaeus, 1758) | |
Cyfystyron | |
Sula bassana |
Mae'r oedolyn yn aderyn hawdd ei adnabod, gyda phlu gwyn, heblaw am flaen yr adenydd, sy'n ddu. Mae'r pig yn las golau gyda darn o groen du heb blu arno o'i gwmpas, ac yn ystod y tymor nythu mae gwawr felen ar y pen a'r gwddf. Brown yw lliw yr adar ieuanc, ac maent yn troi'n wyn yn raddol dros gyfnod o bum mlynedd. Mae'r oedolion rhwng 87 a 100 cm o hyd a 165–180 cm ar draws yr adenydd.
Maent yn nythu gyda'i gilydd, weithiau filoedd ohonynt, fel rheol ar ynysoedd bychain yn y môr. Mae'r nifer fwyaf yn nythu ar Ynys Bonaventure yn nhalaith Quebec, Canada, lle mae dros 60,000 ohonynt, ond mae 68% o boblogaeth y byd yn nythu ar Ynysoedd Prydain, er enghraifft tua 40,000 o barau ar ynys Boraraigh, rhan o ynysoedd Sant Kilda. Mae'r boblogaeth wedi cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Yn y gaeaf maent yn symud tua'r de.
Eu prif fwyd yw pysgod, sy'n cael ei dal trwy blymio i'r môr o'r awyr. Gallant blymio o uchder o tua 30m a tharo'r dŵr gyda chyflymdra o 100 km yr awr, ac mae ganddynt rai nodweddion corfforol sy'n eu galluogi i wneud hyn heb niwed, er enghraifft nid oes ganddynt ffroenau allanol.