Roedd yr Hen Aifft yn wareiddiad a ddatblygodd ar hyd canol a rhan isaf afon Nîl o tua 3150 CCC. hyd nes iddi ddod yn dalaith Rufeinig Aegyptus yn 31 CCC. Roedd yn ymestyn tua'r de o aber y Nîl hyd at Jebel Barkal ger y pedwerydd cataract. Ar brydiau roedd yr Aifft yn rheoli tiriogaethau ehangach.

Thumb
Pyramid Khafre a'r Sffincs Mawr

Roedd gwareiddiad yr Aifft yn dibynnu ar y Nîl. Pan fyddai'r glawogydd ymhellach i'r de yn peri i'r afon ddod tros ei glannau a gorchuddio llawer o'r tir, byddai'n dyfrhau ac yn ffrwythloni'r tir ar unwaith. Roedd hyn o bwysigrwydd mawr mewn gwlad lle nad oes bron ddim glaw.

Roedd amaethyddiaeth wedi cyrraedd dyffryn y Nîl erbyn tua 6000 CCC. Erbyn 3300 CCC, yr oedd yr Aifft wedi ei rhannu yn ddwy deyrnas, yr Aifft Uchaf (Ta Shemau) a'r Aifft Isaf (Ta Mehu), gyda'r ffin oddeutu safle Cairo heddiw. Unwyd y ddwy deyrnas gan Menes, brenin cyntaf yr Aifft unedig.

Y prif gyfnodau yn hanes yr Aifft yw:

Datblygiadau yn yr Hen Aifft

  • 3300 CC : gwaith efydd : gweler Oes yr Efydd
  • 3200 CC : Hieroglyffau wedi datblygu'n llawn
  • 3200 CC : Paled Narmer, y ddogfen hanesyddol gyntaf yn y byd
  • 3100 CC : system ddegol am y tro cyntaf yn y byd hyd y gwyddir
  • 3050 CC : adeiladu llongau yn Abydos
  • 3000 CC : allforio gwin o'r Aifft i'r Lefant.
  • 3000 CC : Papyrws, y papur cyntaf
  • 2700 CC : Llawfeddygaeth, y dystiolaeth gyntaf
  • 2700 CC : Hieroglyffau wedi datblygu i greu'r wyddor gyntaf
  • 2600 CC : Sffincs Mawr Giza, hyd yn oed heddiw y cerflun mwyaf o un darn o garreg
  • 2600 CC : Pyramid Djoser, y cynharaf o byramidau'r Aifft a'r adeilad carreg cyntaf y gwyddir amdano
  • 2600 CC : Pyramid Menkaure a'r Pyramid Coch
  • 2580 CC : Pyramid Mawr Giza, yr adeilad talaf yn y byd hyd 1300 O.C.
  • 1600 CC : Papyrws Edwin Smith, ysgrifau ar feddygaeth, traddodiad yn ôl i tua 3000 CC
  • 1500 CC : gwneud gwydr am y tro cyntaf
  • 1258 CC : y cytundeb heddwch cyntaf y gwyddir amdano, rhwng Ramesses II a'r Hethiaid
  • 1160 CC: Papyrws Turin, y map cyntaf

Gweler hefyd

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.