From Wikipedia, the free encyclopedia
Mynyddwr, fforiwr ac awdur o Awstria oedd Heinrich Harrer (6 Gorffennaf 1912 – 7 Ionawr 2006). Yn enedigol o Awstria, mae'n enwog am fod yn un o'r pedwar dringwr a ddringodd wyneb gogleddol yr Eiger am y tro cyntaf. Roedd yn dringo yn yr Himalaya pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, a chymerwyd ef yn garcharor gan y Prydeinwyr. Llwyddodd i groesi i Tibet lle bu'n byw am rai blynyddoedd, gan ddod i adnabod y Dalai Lama. Ysgrifennodd lyfr Saith Mlynedd yn Tibet a ystyrir yn glasur, ac a wnaed yn ffilm yn nes ymlaen.
Heinrich Harrer | |
---|---|
Ganwyd | 6 Gorffennaf 1912 Hüttenberg |
Bu farw | 7 Ionawr 2006 Friesach |
Dinasyddiaeth | Awstria |
Alma mater | |
Galwedigaeth | fforiwr, ffotograffydd, dringwr mynyddoedd, Sgïwr Alpaidd, ysgrifennwr, sgriptiwr, daearyddwr, golffiwr |
Adnabyddus am | Seven Years in Tibet |
Plaid Wleidyddol | Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol |
Gwobr/au | Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Addurniad Aur Mawr Styria, Gwobr Gwirionedd y Goleuni, Athro Berufstitel, Gwobr Awstria am Gelf a Gwyddoniaeth |
Gwefan | http://www.harrerportfolio.com/ |
Chwaraeon |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.